Dewis cwrs

Mae ein hadran 'sut i ddewis cwrs' yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i'ch helpu i ystyried y llwybr cywir ar eich cyfer chi.

Os ydych chi'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl treulio amser hir i ffwrdd, efallai y bydd gennych chi ffactorau eraill ychwanegol i'w hystyried wrth ddod i benderfyniad.

  • Eich rhesymau dros ddewis addysg uwch - efallai eich bod yn gobeithio symud ymlaen yn eich gyrfa neu ailhyfforddi i weithio mewn diwydiant newydd. Neu efallai fod gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am bwnc penodol. Gall meddwl am eich rhesymau dros fynd i brifysgol eich helpu i ganolbwyntio ar y math o gwrs i chwilio amdano.

  • Eich amgylchiadau personol - efallai y bydd llawer o bethau i feddwl amdanynt wrth benderfynu ai addysg uwch yw'r dewis iawn i chi. A oes modd ichi symud a chanfod llety wrth brifysgol sydd ymhell oddi cartref, neu a fyddai'n well gennych aros gartref ac astudio yn lleol? Efallai y byddai'n well gennych wneud cwrs rhan-amser, neu ddysgu o bell? Mae ein hadran 'ynglŷn ag addysg uwch' yn cynnwys gwybodaeth am y gwahanol fathau o opsiynau sydd ar gael o ran addysg uwch. Efallai fod gennych chi gyfrifoldebau gofalu neu ymrwymiadau ariannol i'w hystyried. Mae ein tudalen 'cymorth ac agweddau ymarferol' yn cynnwys gwybodaeth am yr arweiniad a'r cymorth ymarferol sydd ar gael ichi yn ystod eich taith addysg uwch.

  • Y mathau o gyrsiau sydd ar gael - efallai na fyddwch am ddilyn Gradd Baglor llawn (3-4 blynedd fel arfer), felly gallech ystyried mathau eraill o gyrsiau is-raddedig fel gradd sylfaen, prentisiaeth uwch neu lefel gradd, neu gymhwyster yn seiliedig ar waith fel Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) Ceir rhagor o wybodaeth am y rhain yn ein hadran 'ynglŷn ag addysg uwch'. Gallwch ddefnyddio Darganfod Prifysgol i chwilio am gyrsiau is-raddedig ar draws y DU, fesul prifysgol, coleg neu gwrs.

  • Efallai eich bod wedi gadael yr ysol heb gymwysterau ffurfiol, neu fod gennych gymwysterau gwahanol i'r gofynion arferol ar gyfer y cyrsiau y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Mae prifysgolion a cholegau fel arfer yn cydnabod y profiad a'r budd a ddaw yn sgil myfyrwyr hŷn. Gall eu gofynion mynediad ar gyfer myfyrwyr aeddfed hefyd fod yn wahanol i'r rhai a hysbysebir ar gyfer rhai sy'n gadael yr ysgol, felly mae'n well cysylltu â'r tîm derbyniadau. Gall cwrs Mynediad Addysg Uwch hefyd eich paratoi i ddychwelyd i astudio - ceir rhagor o fanylion ar y wefan Mynediad i AU.

  • Os ydych chi'n poeni am ddychwelyd i astudio, cewch hyd i ddigonedd o gyrsiau byr ar-lein, y mae llawer ohonynt yn gyrsiau am ddim. Mae'r rhain yn amrywio rhwng cyrsiau i loywi eich sgiliau astudio a chyrsiau pwnc byr. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran 'dolenni defnyddiol' isod.

  • Mae prifysgolion a cholegau addysg bellach yn croesawu myfyrwyr sy'n dychwelyd i fyd addysg, ac mae gan rai ohonynt gyfran fwy o fyfyrwyr hŷn nag eraill. Efallai y byddwch hefyd am ymchwilio i'r modd y gall y sefydliad yr ydych wedi'i ddewis gefnogi eich anghenion neilltuol chi. Dylai gwefannau'r sefydliadau gynnwys manylion ynghylch hyn, a bydd croeso i chi gysylltu'n uniongyrchol â nhw i drafod eich amgylchiadau.
Back
to top