Ymgeisio i brifysgol/goleg

Os ydych chi'n ymgeisio i gychwyn cwrs is-raddedig amser llawn, dylech wneud cais drwy UCAS. Nid yw UCAS ond yn derbyn ceisiadau am gyrsiau addysg uwch sy'n dechrau eleni ar hyn o bryd. Er bod y prif ddyddiad cau wedi pasio, sef 29 Ionawr, cewch barhau i ymgeisio hyd 30 Mehefin 2021.

Bydd pob cais a dderbynnir gan UCAS ar ôl 30 Mehefin yn cael ei gynnwys yn y broes glirio. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses glirio isod.

Os ydych chi eisiau astudio'n rhan-amser neu o bell, efallai y bydd angen ichi ymgeisio'n uniongyrchol i'r brifysgol neu goleg o'ch dewis. Bydd tîm derbyniadau'r brifysgol/coleg yn gallu esbonio'r broses ymgeisio a phryd y mae angen ichi ymgeisio.

Edrychwch ar yr adrannau isod am wybodaeth ynghylch ymgeisio i brifysgol fel rhywun sy'n dychwelyd i fyd addysg.

Clirio yw'r system a ddefnyddir gan brifysgolion a cholegau i lenwi unrhyw leoedd gwag sydd ganddynt ar gyrsiau addysg uwch. Rhwng 6 Gorffennaf a 20 Hydref, gallwch ymgeisio am le ar gwrs drwy ddefnyddio'r broses Glirio os nad oes gennych eisoes gynnig gan brifysgol neu golwg, ac os oes lle ar ôl ar y cwrs hwnnw.

UCAS sy'n cynnal y broses glirio. Mae UCAS yn dal y rhestr swyddogol o leoedd gwag, felly gallwch ddefnyddio ei offeryn chwilio i gael hyd i gyrsiau a chanddynt leoedd gwag.

Cewch hyd i fanylion llawn y broses Glirio, a mynediad at offeryn chwilio UCAS, yn yr adran Glirio ar wefan UCAS.

Pan fyddwch chi wedi cael hyd i gwrs yr hoffech ymgeisio amdano, cofiwch y gallwch hefyd gyrchu data a gwybodaeth swyddogol am y cwrs ar Darganfod Prifysgol.

Gan eich bod yn dychwelyd i fyd addysg, mae'n debygol na fydd gennych yr un gefnogaeth i lenwi eich ffurflenni cais ag a ddarperir gan lawer o ysgolion a cholegau. Mae UCAS wedi cyhoeddi canllaw sy'n anelu i helpu myfyrwyr aeddfed lenwi eu ffurflenni'n llwyddiannus. Mae'n cynnwys cynghorion ar sut i ysgrifennu eich datganiad personol a chasglu geirdaon i gefnogi eich cais.

Gofynnir ichi restru unrhyw gymwysterau a ddelir gennych a chyflwyno prawf o'r rhain cyn dechrau eich cwrs. Os nad oes gennych chi eich tystysgrifau gwreiddiol, gallwch gael copi fel arfer gan y bwrdd arholi, er y gallai hynny olygu talu ffi.

  • I rai yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, mae gwefan gov.uk yn esbonio sut i gael tystysgrifau newydd. Sylwch na allwch gael tystysgrif newydd ar gyfer Lefel O, Tystysgrif Addysg Uwchradd, TGAU na Safon Uwch - bydd eich bwrdd arholi yn anfon 'datganiad ardystiedig o ganlyniadau' yn lle hynny, y dylai eich darparydd addysg uwch ei derbyn. Mae'n bosibl y bydd tystysgrifau newydd ar gael ar gyfer cymwysterau eraill.
  • Os ydych chi yn yr Alban, gallwch ddefnyddio Gwasanaeth Tystysgrif Newydd Awdurdod Cymwysterau'r Alban.

Yn rhan o'r broses ymgeisio gofynnir ichi gyflwyno geirda. Os ydych chi'n astudio mewn coleg, gall eich arweinydd cwrs roi geirda ichi. Os ydych chi'n ymgeisio'n annibynnol, bydd angen ichi ddarparu manylion canolwr.

Yn ddelfrydol, dylai'r unigolyn eich adnabod o safbwynt academaidd. Os nad oes gennych chi unrhyw un felly, gallwch ofyn i gyflogwr neu rywun sydd wedi eich adnabod yn ffurfiol. Ni chewch roi enw perthynas na ffrind fel canolwr. Am arweiniad ynghylch sut i ddewis canolwr, edrychwch ar wefan UCAS.

Back
to top