Gwybodaeth i ddarparwyr

Caiff y wefan Darganfod Prifysgol ei pherchnogi a’i gweithredu gan gyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch y DU:

Mae'n cynnwys ystadegau swyddogol am gyrsiau addysg uwch a gymerwyd o arolygon cenedlaethol a data a gasglwyd gan brifysgolion a cholegau am eu holl fyfyrwyr.

Darllenwch ein hadrannau isod i gael gwybodaeth i ddarparwyr, gan gynnwys:

  • sut i gyflwyno neu ddiwygio gwybodaeth am gwrs a ddangosir ar Darganfod Prifysgol
  • canllawiau ar gyfluniad ac arddangos y teclyn Darganfod Prifysgol ar eich tudalennau cyrsiau eich hun.

Gelwir y data ar Darganfod Prifysgol yn set ddata Darganfod Prifysgol (a elwid yn set ddata Unistats gynt). Rydym yn gweithredu'r broses casglu data mewn partneriaeth gyda'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), sydd bellach yn rhan o JISC.

Mae'n ofynnol i ddarparwyr addysg uwch sydd wedi'u cofrestru gyda’r Swyddfa Fyfyrwyr yn Lloegr, a darparwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyflwyno data Unistats blynyddol i HESA sy'n cynnwys manylion eu cyrsiau israddedig cymwys. I ddarganfod a yw cwrs yn gymwys i gael ei gynnwys yn y data Unistats a gyflwynir gan ddarparwyr, gweler y datganiad cwmpas ar wefan HESA.

Mae'r set ddata Darganfod Prifysgol yn cynnwys yr wybodaeth y mae darparwyr yn ei hanfon at HESA fel rhan o’r data Unistats a gyflwynir ganddynt, yn ogystal â data o'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, yr Arolwg Hynt Graddedigion ac LEO, a gwybodaeth am asesu ansawdd a safonau.

Mae Darganfod Prifysgol yn dangos y data Darganfod Prifysgol diweddaraf - sef set ddata 2023 ar hyn o bryd. Mae'r set ddata hon yn cynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i gyrsiau a fydd yn rhedeg ym mlwyddyn academaidd 2024-25.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn y cyhoeddiad Unistats 2023, a gyhoeddwyd gan gyrff cyllido'r DU:

Gall darparwyr ddiweddaru eu gwybodaeth bresennol ar Darganfod Prifysgol trwy ailgyflwyno eu data Unistats i HESA. Mae'r set ddata Darganfod Prifysgol yn cael ei diweddaru'n wythnosol, a bydd unrhyw newidiadau’n cael eu hadlewyrchu yn y set ddata ac ar y wefan Darganfod Prifysgol ar yr adeg honno.

Mae canllawiau manwl ar gynnwys y casgliad data ar gael ar wefan HESA. Ar gyfer ymholiadau penodol ynghylch cyflwyno data Unistats neu’r casgliad data Darganfod Prifysgol, cysylltwch â thîm Cyswllt HESA: [email protected].

Sylwch ei bod yn ofynnol i ddarparwyr sydd newydd gofrestru yn Lloegr gyflwyno a llofnodi ffurflen Unistats o fewn dau fis i’r dyddiad y gwnaethant cofrestru gyda'r Swyddfa Myfyrwyr.

Mae rhagor o fanylion am yr eitemau data rydym yn eu cyhoeddi ar dudalennau cyrsiau ar gael ar ein tudalen ’Ynglŷn â’n data'.

Manylion cyswllt darparwyr

Mae'r set ddata Darganfod Prifysgol yn cynnwys enwau a manylion cyswllt darparwyr o Gofrestr Darparwyr Dysgu’r DU (UKRLP). Bydd Darganfod Prifysgol yn cyflwyno'r wybodaeth hon fel a nodir yng nghofnod UKRLP y darparwr ei hun o dan 'enw masnachu’r darparwr'. Os nad oes enw masnachu’n bodoli ar UKRLP, defnyddir yr enw cyfreithiol yn lle hynny.

Gall darparwyr ddiweddaru eu cofnod UKRLP ar unrhyw adeg, a bydd unrhyw newidiadau a wneir yn cael eu hadlewyrchu ar Darganfod Prifysgol, ar ôl diweddariad wythnosol set ddata Darganfod Prifysgol.

Caiff y teclyn Darganfod Prifysgol ei fewnblannu ar dudalennau cyrsiau ar wefannau darparwyr, ac mae'n darparu’r prif ddata Darganfod Prifysgol sy'n gysylltiedig â'r cwrs hwnnw, yn ogystal â dolen uniongyrchol i dudalen gyfatebol y cwrs ar y wefan Darganfod Prifysgol. Disgwylir i ddarparwyr arddangos teclyn ar eu tudalennau cyrsiau ar gyfer pob cwrs sy'n bresennol ar Darganfod Prifysgol.

Y data a ddangosir ar y teclyn yw:

  • % y myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a oedd yn fodlon ar y cyfan ar eu cwrs (ar gyfer darparwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn unig)
  • Y % mewn gwaith neu'n gwneud astudiaethau pellach 15 mis ar ôl y cwrs o'r Arolwg Hynt Graddedigion.
  • % y myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr sy’n dweud bod staff wedi cefnogi eu dysgu'n dda.

Gellir dod o hyd i'n canllawiau ynghylch sut i weithredu'r teclyn yma, neu ar wefan HESA.

Rhaid ffurfweddu'r teclyn yn unol â'r cyfarwyddiadau a roddir yn y canllawiau er mwyn osgoi materion arddangos ac ymarferoldeb. Fel y tudalennau cyrsiau ar y wefan Darganfod Prifysgol, daw’r holl wybodaeth a ddarperir ar y teclyn o’r set ddata Darganfod Prifysgol, felly rhaid i'r holl fanylion a ddarperir i ffurfweddu'r teclyn gyfateb â'r wybodaeth gyfatebol am y cwrs a gyflwynir yn eich data Unistats a gasglwyd i'w chynnwys yn y set ddata Darganfod Prifysgol.

Sylwch efallai na fydd y teclyn yn arddangos yr holl eitemau data a restrir uchod os nad yw'r data ar gael ar dudalen gyfatebol y cwrs ar Darganfod Prifysgol – gweler y canllawiau i gael manylion llawn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y teclyn Darganfod Prifysgol, cysylltwch â ni: [email protected].

Back
to top