Ansawdd a safonau
Asesu ansawdd prifysgolion a cholegau
Mae gan bob gwlad yn y DU ei ffordd ei hun o sicrhau bod prifysgolion a cholegau yn bodloni safonau uchel. Gelwir hyn yn system asesu ansawdd.
Dylech sicrhau bod y brifysgol neu'r coleg a ddewisir gennych wedi'i chynnwys yn y system asesu ansawdd berthnasol. Mae angen iddi fod wedi'i chynnwys er mwyn ichi dderbyn cymorth ariannol fel benthyciadau myfyrwyr.
Cymru
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) sy’n goruchwylio ansawdd addysg uwch yng Nghymru. Mae’r Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru’n nodi’r mecanweithiau a ddefnyddir gan CCAUC i’w sicrhau ei hun bod ansawdd addysg yn diwallu anghenion y rhai sy’n ei chael. Fel rhan o hyn, mae sefydliadau’n mynd trwy adolygiadau sicrhau ansawdd allanol cylchol, yn unol â Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd. Tanategir y fframwaith gan drefn o weithio mewn partneriaeth gyda myfyrwyr.
Mae’r fframwaith hefyd yn cynnwys gofyniad i sefydliadau gyd-fynd â’r gofynion sylfaenol canlynol:
- Y fframweithiau ar gyfer cymwysterau addysg uwch, a nodir yng Nghod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch;
- Y Disgwyliadau, Arferion Craidd ac Arferion Cyffredin yng Nghod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch; ynghyd â datganiadau nodweddion a datganiadau meincnodi pynciol, lle y bo’n briodol;
- Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru;
- gofynion o ran y Gymraeg;
- Y Cod Llywodraethu Addysg Uwch neu god llywodraethu Colegau Cymru ar gyfer sefydliadau yng Nghymru, fel y bo’n briodol;
- Gofynion CCAUC o ran cynaliadwyedd ariannol, rheoli a llywodraethu, a’i genhadaeth a’i strategaeth ar gyfer darpariaeth addysg uwch;
- Rhwymedigaethau darparwyr dan gyfraith defnyddwyr, fel a nodir gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd;
- Y canllawiau a nodir yn Fframwaith Arfer Da Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol.
Gogledd Iwerddon
Mae Adran yr Economi yn gyfrifol am asesu ansawdd darparwyr addysg uwch yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'n gwneud hynny drwy'r Adolygiad Darparwyr Blynyddol, asesiad trwyadl o wybodaeth a data. Caiff darparwyr eu hasesu yn erbyn safon uchelsylfaenol, gyda phedwar canlyniad posibl:
Yn bodloni'r gofynion
Mae'r darparydd yn bodloni'r gofynion yn llawn o ran ansawdd a safonau.
Yn bodloni'r gofynion gyda chynllun gweithredu
Mae'r darparydd hwn yn bodloni'r gofynion o ran ansawdd a safonau ac yn rhoi cynllun gweithredu ar waith i wella rhai agweddau.
Yn yr arfaeth
Nid yw canlyniad yr adolygiad darparwyr blynyddol ar gael eto ar gyfer y darparydd hwn. Mae canlyniad 'yn yr arfaeth' yn golygu nad yw'r broses wedi'i chwblhau eto ar gyfer y darparydd hwn. Dyma ganlyniad niwtral, ac nid oes iddo unrhyw arwyddocâd cadarnhaol na negyddol.
Heb fodloni'r gofynion
Nid yw'r darparydd hwn yn bodloni'r gofynion ar gyfer safonau ac ansawdd ar hyn o bryd. Y mae'n destun gwaith craffu ychwanegol, ac mae cynllun gweithredu ar waith i ymdrin â meysydd sy'n destun pryder.
Gallwch weld canlyniadau ein Hadolygiad Darparwyr Blynyddol ar ein tudalennau prifysgolion a cholegau.
Lloegr
Y Swyddfa Fyfyrwyr yw'r corff sy'n rheoleiddio addysg uwch yn Lloegr.
Mae'r Swyddfa yn cadw rhestr o ddarparwyr addysg uwch, a elwir yn gofrestr. Bydd darparwyr cofrestredig yn cael eu hasesu'n drwyadl i ddangos eu bod yn bodloni'r safonau uchel gofynnol. Gelwir hyn yn llinell sylfaen.
Mae'r holl brifysgolion a cholegau ar Darganfod y Brifysgol naill ai wedi'u cofrestru, neu mae ansawdd y cyrsiau a welwch wedi'i sicrhau gan ddarparydd cofrestredig.
Yr Alban
Cyngor Cyllido'r Alban sy'n goruchwylio ansawdd addysg uwch yr Alban.
Mae'r Cyngor yn gwneud hynny drwy'r pum elfen yn ei Fframwaith Gwella Ansawdd:
Adolygiad Sefydliadol sy'n seiliedig ar Welliannau
Mae Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yr Alban yn cynnal adolygiadau allanol annibynnol o'r modd y mae prifysgolion yn sicrhau safonau academaidd ac yn gwella profiad myfyrwyr.
Adolygiad wedi'i arwain gan y Sefydliad
Bydd prifysgolion yr Alban yn cynnal adolygiadau pwnc mewnol ac y rhoi adroddiad blynyddol i'r Cyngor. Mae'n rhaid adolygu'r holl gyrsiau prifysgol dros gylch o chwe blynedd.
Ymgysylltu â myfyrwyr
Annog a chefnogi myfyrwyr i rannu ansawdd eu haddysg yn weithredol.
Themâu Gwella
Rhaglen genedlaethol o weithgareddau ar thema benodol er mwyn rhannu enghreifftiau o arloesi wrth ddysgu ac addysgu ar draws y sector.
Gwybodaeth gyhoeddus
Sicrhau bod gwybodaeth glir, gywir a hygyrch ar gael yn sail ar gyfer dewisiadau myfyrwyr, i gynnwys myfyrwyr yn well yn y broses o wella ansawdd, a rhoi sicrwydd ynghylch safonau.
Gyda'i gilydd, mae pum elfen y Fframwaith yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd ynghylch safonau academaidd ac ansawdd cyfleoedd dysgu ym mhrifysgolion yr Alban.
Gallwch weld adroddiadau ELIR drwy ddilyn y dolenni ar ein tudalennau prifysgolion a cholegau.
Y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Deilliannau Myfyrwyr (TEF)
Cyflwynwyd y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) gan y Llywodraeth yn Lloegr yn 2017. Cynllun cenedlaethol a gaiff ei redeg gan y Swyddfa Fyfyrwyr ydyw a’i nod yw annog darparwyr addysg uwch i wella a chyflawni rhagoriaeth yn y meysydd sydd fwyaf o bwys i fyfyrwyr: addysgu, dysgu a deilliannau myfyrwyr (pa un a yw myfyrwyr yn mynd ymlaen i swyddi rheoli neu broffesiynol, neu’n ymgymryd ag astudiaethau pellach). Mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu’n gwneud hyn trwy asesu prifysgolion a cholegau a rhoi sgôr iddynt am ragoriaeth uwchlaw set o ofynion sylfaenol ar gyfer ansawdd a safonau.
Yn ystod 2021-22 fe ymgynghorodd y Swyddfa Fyfyrwyr ar gynigion ar gyfer Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd ac mae hwn bellach wedi cael ei gyflwyno ar gyfer 2023. Gall darparwyr sy’n cymryd rhan yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu 2023 gael sgôr ar y cyfan yn ogystal â dau sgôr tanategol – y naill ar gyfer profiad myfyrwyr a’r llall ar gyfer deilliannau myfyrwyr. Bydd ymarfer y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd yn digwydd yn 2023. Rhaid i’r holl ddarparwyr yn Lloegr sydd wedi’u cofrestru gyda’r Swyddfa Fyfyrwyr ar hyn o bryd gymryd rhan yn yr ymarfer, a gall darparwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyfranogi ar sail wirfoddol.
Bydd Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu 2023 yn cydnabod graddau cynyddol o ragoriaeth uwchlaw’r disgwyliadau ansawdd sylfaenol a gall prifysgolion a cholegau gael un o dri sgôr: ‘Aur’, ‘Arian’ neu ‘Efydd’. Lle ceir diffyg rhagoriaeth uwchlaw’r gofynion sylfaenol, ‘Angen gwelliant’ fydd y canlyniad. Mae’r sgoriau’n adlewyrchu i ba raddau y mae darparwr yn sicrhau profiad a deilliannau rhagorol i’w gymysgedd o fyfyrwyr israddedig ac ar draws ystod ei gyrsiau a phynciau israddedig. Bydd y dyfarniadau’n para pedair blynedd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.
Gan bod dyfarniadau cyfredol y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu wedi cael eu gwneud nifer o flynyddoedd yn ôl, efallai nad ydynt yn darparu adlewyrchiad cyfoes o ansawdd yr addysgu, felly mae’r Swyddfa Fyfyrwyr wedi cynghori prifysgolion a cholegau i roi’r gorau i hysbysebu eu dyfarniadau. Ceir gwybodaeth am y dyfarniadau dan y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu sydd gan sefydliadau ar hyn o bryd ar dudalen deilliannau’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr, ond gall yr wybodaeth hon fod yn llai perthnasol i ddarpar fyfyrwyr oherwydd natur hanesyddol y dyfarniadau.
to top