Cymru

Os ydych chi'n byw yng Nghymru ac yn ymgeisio i brifysgol neu goleg yn y DU efallai y byddwch yn gallu benthyg arian i dalu cost eich ffioedd dysgu.

Bydd yr arian yma'n cael ei dalu'n syth i'r brifysgol neu'r coleg.

Os ydych yn fyfyriwr o'r UE, yn ddinesydd Gwyddelig neu'n wladolyn o'r DU sy'n byw yn yr AEE neu'r Swistir, edrychwch ar y canllawiau gan canllawiau hyn gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Faint alla i ei fenthyg?

Os ydych chi'n astudio yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, gallwch fenthyg hyd at £9,250 os ydych chi'n astudio mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus.

Os ydych chi'n astudio'n rhan-amser gallwch gael benthyciad os yw eich amser astudio gyfwerth â 25% o'r oriau amser llawn o leiaf.

Holwch y brifysgol neu'r coleg os nad ydych yn siŵr a yw eich cwrs yn gymwys ar gyfer cyllid myfyrwyr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

I gael gwybodaeth am sut i wneud cais am gyllid myfyrwyr, gweler ein hadran 'gwneud cais am gyllid' isod.

I ymgeiswyr newydd

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru bellach wedi agor ceisiadau am gyllid myfyrwyr ar gyfer cyrsiau israddedig amser llawn a fydd yn dechrau yn 2024/25. Maen nhw wedi creu fideo Egluro Cyllid Myfyrwyr (2024-25) sy’n dweud wrthych am y cymorth ariannol sydd ar gael tra’r ydych yn y brifysgol neu’r coleg.

Dylai ymgeiswyr newydd ymgeisio cyn 31 Mai 2024 i sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar gyfer dechrau eu cwrs.

Disgwylir i geisiadau israddedig rhan-amser agor erbyn diwedd mis Mai 2024.

Disgwylir i geisiadau ôl-raddedig agor erbyn diwedd mis Mehefin 2024.

Y broses ymgeisio

Dylai myfyrwyr newydd ymgeisio am gyllid gyda Cyllid Myfyrwyr Cymru trwy greu cyfrif ar-lein ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Gweler canllawiau SFW ar gyfer cyrsiau amser llawn neu ran amser am fanylion ar sut i wneud cais. Dim ond tua 30 munud ddylai’r cais ei gymryd.

Os byddwch yn ymgeisio am swm uwch o gyllid myfyrwyr yn seiliedig ar incwm eich aelwyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i’ch rhieni neu bartner ddarparu eu gwybodaeth ariannol cyn gynted â phosibl i osgoi oedi gyda’ch cais.

Mae CMC wedi cynhyrchu canllawiau i rieni a phartneriaid i gynorthwyo gyda'r broses hon.

Mae’n cymryd 6 i 8 wythnos i brosesu cais fel arfer, ac nid oes angen ffonio Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael diweddariad tra’u bod yn gwneud hyn. Tra’ch bod yn disgwyl am ddiweddariad, gwiriwch eich ‘rhestr o bethau i’w gwneud’ yn eich cyfrif ar-lein o bryd i’w gilydd rhag ofn bod arnynt angen rhagor o wybodaeth neu dystiolaeth gennych i symud eich cais yn ei flaen.

I gael gwybodaeth gyffredinol am gyllid myfyrwyr, ewch at wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

I fyfyrwyr cyfredol

Os ydych yn fyfyriwr ar hyn o bryd, cofiwch ailymgeisio am gyllid myfyrwyr am bob blwyddyn yn ystod eich cwrs. Dylech ailymgeisio erbyn 28 Mehefin 2024 i sicrhau bod eich cyllid yn ei le ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.

Os ydych yn disgwyl am eich taliad cyllid myfyrwyr, gweler y canllawiau ynghylch taliadau gan Cyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) i wneud yn siŵr eich bod yn cael y taliad ar amser.

Rhagor o wybodaeth

Bydd angen cyfrif banc arnoch i ymgeisio am gyllid myfyrwyr. Ceir nifer o gyfrifon banc i fyfyrwyr sy’n cynnig ystod o gymhellion.

I gael rhagor o wybodaeth ewch at y dudalen MoneySavingExpert - cyfrifon banc myfyrwyr (dolen yn Saesneg).

Os ydych yn athro/athrawes, ymgynghorydd neu ymarferydd, gallwch gael gwybodaeth am Cyllid Myfyrwyr Cymru i ymarferwyr i gynorthwyo myfyrwyr i ddeall y cymorth ariannol sydd ar gael, yng Nghymru.

I gael diweddariadau pellach, gallwch ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Facebook, Twitter a Youtube.

Mae'r swm rydych chi'n ei dderbyn yn dibynnu ar incwm eich aelwyd a lle rydych chi'n byw ac yn astudio.

Gallai israddedigion amser llawn fod yn gymwys i dderbyn hyd at £13,375 tuag at eu costau byw os ydynt yn byw oddi cartref ac yn astudio yn Llundain, neu £10,710 y flwyddyn os ydynt yn gweithio oddi cartref ac yn astudio yn rhan arall o'r DU.

Bydd pob myfyriwr cymwys amser llawn yn derbyn grant o £1,000 o leiaf, waeth beth fo incwm yr aelwyd. Gallai myfyrwyr o aelwydydd incwm is fod yn gymwys i dderbyn grant o hyd at £10,124 os ydynt yn astudio yn Llundain, neu hyd at £8,100 os ydynt yn astudio yng ngweddill y DU. Nid oes rhaid talu'r grant hwn yn ôl.

Mae gan Gyllid Myfyrwyr Cymru restr gyfredol o'r cymorth sydd ar gael.

Bydd angen ichi ad-dalu eich Benthyciad Ffioedd Dysgu a'ch Benthyciad Cynhaliaeth. Does dim angen ichi dalu unrhyw gyllid arall i fyfyrwyr yn ôl, er enghraifft grantiau a bwrsariaethau, onid oedd y swm a dalwyd yn ormodol.

Dim ond pan fydd eich incwm yn uwch na'r trothwy ar gyfer eich cynllun ad-dalu y byddwch yn dechrau talu'r benthyciad yn ôl. Mae'r symiau trothwy yn newid ar 6 Ebrill bob blwyddyn.

Y cynharaf y byddwch yn dechrau talu yw naill ai:

  • y mis Ebrill ar ôl ichi adael eich cwrs
  • y mis Ebrill 4 blynedd ar ôl i'r cwrs ddechrau, os ydych chi'n astudio'n rhan-amser

Sylwch fod llog yn dechrau cael ei ychwanegu at eich benthyciad o'r adeg y cewch eich taliad cyntaf. Mae maint y llog yn dibynnu ar y cynllun rydych chi arno. Gweler arweiniad Gov.uk ar ad-dalu’ch benthyciad myfyriwr i gael rhagor o fanylion am y gyfradd llog.

Bydd eich ad-daliadau'n stopio'n awtomatig os:

  • ydych chi'n stopio gweithio
  • yw eich incwm yn gostwng yn is na'r trothwy.

Mae gan Cyllid Myfyrwyr Cymru fwy o wybodaeth am fenthyciadau ffioedd dysgu.

Am wybodaeth fanwl ynghylch sut a phryd i ad-dalu, ewch i wefan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr am wybodaeth ad-dalu.

Nid oes angen i chi dalu bwrsariaeth, grant neu ysgoloriaeth yn ôl.

Yn aml rhoddir ysgoloriaethau i rai sy'n llwyddiannus iawn yn academaidd, neu sy'n rhagori mewn meysydd fel cerddoriaeth neu chwaraeon.

Fel rheol, dyfernir bwrsariaethau a grantiau i fyfyrwyr ar sail eu hamgylchiadau personol. Efallai y bydd hynny oherwydd bod eich incwm yn isel, neu am eich bod yn dod o gefndir lle bydd llai o bobl yn mynd i brifysgol.

Efallai y byddwch yn gallu ennill bwrsariaeth arbennig os ydych chi’n astudio:

Ysgoloriaethau am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Gallwch wneud cais am gyllid i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol os ydych yn astudio o leiaf 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg.

Efallai y bydd gan brifysgolion a cholegau Cymru hefyd eu bwrsariaethau neu ysgoloriaethau eu hunain os ydych yn astudio rhan o'ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

Sut i gael mwy o wybodaeth

Bydd gan wefannau prifysgolion a cholegau wybodaeth am fwrsariaethau ac ysgoloriaethau a ddarperir ganddynt. Byddant yn dweud wrthych pa feini prawf y mae angen i chi eu bodloni. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys gallwch gysylltu â nhw.

Mae ein tudalennau cwrs yn cynnwys dolenni i wybodaeth am fwrsariaethau ac ysgoloriaethau.

Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr a allai fod angen hynny. Mae'r myfyrwyr hyn yn cynnwys:

  • Rhai sy'n gadael gofal neu fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio o'u rhieni
  • Myfyrwyr sydd â phlant dibynnol, neu sy'n gofalu am oedolyn
  • Myfyrwyr anabl
  • Myfyrwyr sy'n dod o aelwyd incwm isel

Gallant hefyd fod yn gymwys i dderbyn Grant Cymorth Arbennig.

Hepgoriad ffi yw pan fydd prifysgol neu goleg yn talu cyfran o ffi dysgu myfyriwr, neu weithiau’n talu'r ffi yn llawn. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi fenthyca cymaint o arian.

Dyma opsiwn a allai gael ei gynnig i chi os ydych ar incwm isel.

Ceir mwy o wybodaeth am yr hepgoriad ffi rhan-amser ar wefan HEFCW.

Myfyrwyr anabl

Os ydych chi'n anabl, neu os oes gennych anghenion ychwanegol, efallai y byddwch yn gallu derbyn Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA) i dalu unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig ag astudio. Gall hyn gynnwys cyflyrau iechyd meddwl, epilepsi neu ddyslecsia.

Bydd angen i chi gael eich asesu neu gyflwyno tystiolaeth, ond mae arian ar gael i dalu am:

  • gyfarpar neu feddalwedd arbenigol
  • cynorthwyydd anfeddygol
  • pethau eraill fydd o gymorth ichi wrth astudio, fel teithio, llyfrau ac argraffu.

Nid yw Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA) yn ddibynnol ar incwm eich aelwyd, ac nid oes rhaid eu talu'n ôl.

Mae gan Disability Rights UK daflenni ffeithiau am y DSA a gwybodaeth arall ddefnyddiol (mae Link yn Saesneg).

Gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)

Pan fyddwch yn gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr, gwnewch yn siŵr eich bod yn ticio'r blwch i ddweud eich bod am wneud cais am DSA. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais am gyllid i fyfyrwyr, bydd angen i chi gwblhau cais ar wahân am DSA. Fe welwch hwn yn eich rhestr ‘tasgau’ yn eich cyfrif ar-lein.

Y ffordd gyflymaf a hawsaf i wneud cais am DSA yw ar-lein. Ond gallwch hefyd ei wneud ar ffurflen bapur, os yw'n well gennych.

Gweler Cyllid Myfyrwyr Cymru am ragor o wybodaeth ar sut i gwblhau eich cais.

Rhai sy'n gadael gofal

Dyfernir y grant cynhaliaeth uchafswm yn awtomatig i rai sy'n gadael gofal. Mae hyn yn cynnwys rhai sy'n gadael gofal a chanddynt bartner neu sy'n briod. Maen nhw hefyd yn gymwys i dderbyn benthyciad cynhaliaeth.

Bydd rhai sy'n gadael gofal sy'n astudio'n rhan-amser yn gymwys i dderbyn grant cynhaliaeth o £5,000 wedi'i rannu ar sail pa mor ddwys yw'r astudio (ee, byddai myfyriwr rhan-amser yn derbyn 50% o'r £5,000), yn ogystal â benthyciad cynhaliaeth.

Efallai y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru hefyd yn gallu darparu cymorth o Gronfa Dydd Gŵyl Ddewi. Gall hyn gynnwys cymorth ar gyfer cyfarpar, llyfrau a chostau eraill yn gysylltiedig â'r cwrs.

Gall eich cynghorydd personol, eich gweithiwr cymdeithasol neu eich gweithiwr achos roi gwybodaeth i chi am gymorth yr awdurdod lleol. Yr hyn sydd orau yw siarad â nhw'n fuan yn y broses er mwyn sicrhau bod cymorth priodol ar gael.

Elusennau

Mae rhai elusennau a sefydliadau yn rhoi cymorth i rai sy'n gadael gofal. Dyma ddau ohonynt (sylwch fod rhai dolenni yn Saesneg):

Propel

Sefydlwyd Propel gan Become, yr elusen i blant mewn gofal a phobl ifanc sy'n gadael gofal, ac mae ganddi gyfoeth o wybodaeth am gymorth ariannol sydd ar gael ar draws y DU.

Sefydliad Unite
Mae sefydliad Unite yn gweithio mewn partneriaeth â 27 o brifysgolion ledled y DU ac yn cynnig bwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Bydd angen i chi ymgeisio am y rhain, ac nid oes sicrwydd y byddwch yn derbyn unrhyw gymorth. Gallwch hefyd dderbyn cymorth gan elusennau a sefydliadau. Sefydlwyd Propel gan Become, yr elusen i blant mewn gofal a phobl ifanc sy'n gadael gofal, ac mae ganddi gyfoeth o wybodaeth am gymorth ariannol sydd ar gael ar draws y DU.

Bwrsariaethau prifysgol neu goleg

Fel rheol bydd gan brifysgolion a cholegau grantiau a bwrsariaethau i rai sydd wedi profi'r system ofal. Gallai'r rhain gynnwys:

  • hepgor ffioedd
  • gostyngiadau mewn ffioedd
  • ffioedd llety gostyngol
  • bwrsariaethau.

Gallwch holi'r brifysgol neu'r coleg yr ydych wedi'u dewis ynghylch yr hyn y gallech fod â hawl i'w dderbyn.

Myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio

Os ydych wedi ymddieithrio o'ch teulu, ni chaiff incwm eich rhieni ei ystyried wrth gyfrifo cyllid myfyriwr. Gallwch weithiau hefyd gael cymorth ychwanegol o ffynonellau eraill.

Elusen yw StandAlone sy'n cynnig cymorth i bobl ifanc (18-25 ar gyfer cyllid myfyrwyr) sydd wedi ymddieithrio o'u teulu.

www.standalone.org.uk/students (mae Link yn Saesneg)

Myfyrwyr sy'n gofalu am blentyn neu oedolyn

Efallai y gallwch gael cymorth ar ffurf grant. Does dim rhaid talu'r grant yma'n ôl, ac mae'n ychwanegol at unrhyw gyllid arall yr ydych yn ei dderbyn fel myfyriwr.

Grant Gofal Plant https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-israddedig/myfyrwyr-newydd/pa-gymorth-ariannol-sydd-ar-gael/grant-gofal-plant-a-lwfans-rhieni-sy-n-dysgu.aspx

Grant Dysgu Rhieni https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-israddedig/myfyrwyr-newydd/pa-gymorth-ariannol-sydd-ar-gael/grant-gofal-plant-a-lwfans-rhieni-sy-n-dysgu.aspx

Grant Oedolyn Dibynnol https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-israddedig/myfyrwyr-newydd/pa-gymorth-ariannol-sydd-ar-gael/grant-oedolyn-dibynnol.aspx

Credyd treth plant www.gov.uk/child-tax-credit (mae Link yn Saesneg)

Myfyrwyr sy'n profi caledi ariannol

Efallai y bydd eich prifysgol yn rhoi arian ychwanegol i chi os ydych chi'n profi caledi ariannol. Bydd yn penderfynu a ydych yn gymwys a faint y byddwch yn ei dderbyn. Holwch y brifysgol yr ydych wedi'i dewis i weld a allwch ymgeisio.

Efallai y bydd cymorth yr ydych eisoes yn ei dderbyn yn effeithio ar eich hawl i dderbyn y cymorth hwn.

Gweithio wrth astudio

Gall gweithio wrth astudio fod o gymorth. Gallwch weithio'n rhan-amser yn y brifysgol, a gweithio yn ystod gwyliau'r haf hefyd.

Gradd-brentisiaethau

Os byddwch yn dilyn gradd-brentisiaeth, byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag astudio, ac yn cael eich talu am hynny.

Bydd eich cyflogwr hefyd yn talu eich ffioedd dysgu.

Mwy o wybodaeth am radd-brentisiaethau.

Cyllidebu

Efallai y byddwch yn derbyn symiau mwy o arian nag yr ydych wedi arfer eu rheoli. Mae'n
bwysig cyllidebu er mwyn gwneud i'r arian bara.

Cewch gyngor am gyllidebu gan (sylwch fod y tudalennau cysylltiedig yn Saesneg):

MoneySavingExpert

Save The Student

Back
to top