Canlyniadau arholiadau a Chlirio

Pryd mae canlyniadau arholiadau’n cael eu rhyddhau? 📅

- 15 Awst 2024 yw diwrnod canlyniadau Safon Uwch

Gweler yr wybodaeth isod i’ch cefnogi cyn ac yn ystod eich canlyniadau arholiadau.

Cyn eich canlyniadau arholiadau, mae ychydig o gamau y gallwch eu cymryd i wneud yn siŵr eich bod wedi paratoi. 💻📖🖊️

- gwnewch yn siŵr bod eich manylion mewngofnodi UCAS gennych yn barod ar ddiwrnod canlyniadau arholiadau.

- os oes gennych gynnig yr ydych wedi ei dderbyn, edrychwch eto ar fanylion y cwrs i wneud yn siŵr mai hwn yw’r cwrs iawn i chi.

- os nad oes gennych gynnig pendant neu os hoffech archwilio opsiynau eraill, gallwch chwilio am gyrsiau sydd ar gael trwy’r broses Glirio neu gallwch ddefnyddio'r offeryn Clirio a Mwy i gael eich paru â chyrsiau trwy UCAS (nodwch fod pob dolen yn Saesneg.)

Sut mae cael fy nghanlyniadau?

Gallwch gasglu eich canlyniadau pan fydd eich ysgol neu goleg yn agor ar y diwrnod. Cysylltwch â'ch ysgol neu'ch coleg i ganfod eu hamseroedd agor.

Sicrhewch eich bod ar gael ar ddiwrnod canlyniadau arholiad er mwyn i chi gael unrhyw gymorth efallai y bydd ei angen arnoch gan eich athrawon a staff eich ysgol.

Beth fydd sioe UCAS Hub ar ddiwrnod y canlyniadau?

Mae canlyniadau eich arholiadau yn cael eu hanfon yn uniongyrchol at UCAS o'r sefydliadau dyfarnu ac mae UCAS yn anfon eich canlyniadau arholiad ymlaen at eich dewisiadau.

Ar UCAS Track, byddwch yn gallu gweld os ydych wedi cael eich derbyn ar y cwrs a ddewiswyd gennych ai peidio. Ni fyddwch yn gallu gweld pa raddau rydych chi wedi'u cyflawni.

Os nad yw eich Canolbwynt wedi diweddaru erbyn canol y bore, bydd angen i chi gysylltu â'r brifysgol neu'r coleg fel y gallwch siarad â nhw am eich cynnig a'ch canlyniadau arholiad.

Isod ceir ychydig o arweiniad i’ch cefnogi ar ddiwrnod canlyniadau’r arholiadau:

Fe gefais i’r graddau yr oedd eu hangen arnaf ar gyfer fy newis gwrs

Bydd UCAS yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich lle wedi ei gadarnhau a bydd eich dewis brifysgol neu goleg yn anfon manylion yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf.

Fe ges i raddau gwell nag yr oeddwn yn disgwyl eu cael?

Os oes gennych eisoes gynnig y gwnaethoch ei dderbyn, a’ch bod yn dal i fod eisiau dechrau’r cwrs, bydd UCAS yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich cynnig wedi’i gadarnhau. Wedyn bydd eich dewis brifysgol neu goleg yn anfon manylion yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf.

Beth os na fyddaf yn cael y graddau y mae eu hangen arnaf?

Os na chawsoch y graddau yr oedd eu hangen arnoch, mae ychydig o sefyllfaoedd a allai ddigwydd:

  • gallai’r brifysgol neu’r coleg eich derbyn beth bynnag.
  • gallech gael lle ar eich dewis pendant neu eich dewis wrth gefn.
  • gallech gael cynnig dewis arall gan y brifysgol/coleg a elwir yn ‘gynnig cwrs wedi’i newid’ y bydd angen i chi ei dderbyn neu ei wrthod.
  • efallai na fyddwch yn cael lle, ond gallwch chwilio trwy’r broses Glirio i weld pa gyrsiau sy’n dal i fod â lleoedd gwag.

Os na chawsoch y graddau yr oedd eu hangen arnoch ar gyfer eich dewis gwrs, ceisiwch beidio â mynd i banig.

  • siaradwch gydag athrawon a staff yn eich ysgol.
  • ffoniwch linell gymorth canlyniadau arholiadau (gweler ‘Cymorth gyda chanlyniadau arholiadau’ ar gyfer y manylion cyswllt). Os byddwch yn ffonio’r llinell gymorth canlyniadau arholiadau, gwnewch yn siŵr bod gennych liniadur neu gyfrifiadur llechen, neu ben a phapur ar gael i ymchwilio a gwneud nodiadau.
  • siaradwch gyda’ch rhieni neu warcheidwaid.
  • cysylltwch â phrifysgol eich dewis pendant a’ch dewis wrth gefn i weld a fyddant yn fodlon derbyn eich graddau.
  • chwiliwch am opsiynau sydd ar gael yn y broses Glirio.
  • siaradwch gydag unrhyw brifysgolion neu golegau y mae gennych ddiddordeb ynddynt i ofyn a fyddent yn fodlon derbyn eich graddau.

A allaf apelio?

Gweler ‘Apelio yn erbyn canlyniadau arholiadau’ am ragor o wybodaeth.

A allaf ohirio?

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn dal i fod eisiau mynd i’r brifysgol eleni, neu os ydych yn ystyried ailsefyll arholiadau, gallech ystyried gohirio tan y flwyddyn nesaf neu ailymgeisio.

Gweler ‘Gohirio lle’ am ganllawiau pellach.

Beth os oes arnaf eisiau newid cyrsiau?

Os oedd gennych gwrs neu brifysgol neu goleg arall mewn golwg, gallech wirio’r broses Glirio i weld a yw’r cwrs ar gael.

Os ydych yn ansicr ynghylch yr hyn y mae arnoch eisiau ei wneud, gallwch ffonio UCAS neu’r llinellau ffôn canlyniadau arholiadau i sgwrsio gydag ymgynghorydd; byddant hwy’n trafod y gwahanol opsiynau sydd ar gael i’ch helpu i wneud y penderfyniad cywir i chi.

Gweler ‘Clirio’ am ragor o gymorth.

Beth os byddaf yn penderfynu nad oes arnaf eisiau mynd i’r brifysgol neu’r coleg mwyach?

Os nad ydych yn siŵr a oes arnoch eisiau mynd i’r brifysgol neu'r coleg o hyd, efallai y bydd arnoch eisiau ystyried opsiynau eraill megis cymryd blwyddyn i ffwrdd, cael swydd, mynd i deithio neu chwilio am lwybrau eraill megis prentisiaeth.

Gallech ystyried gohirio eich lle, neu os byddwch yn penderfynu nad oes arnoch eisiau mynd i’r brifysgol neu’r coleg mwyach, gallwch ‘wrthod eich lle’ trwy hyb UCAS. Gweler UCAS am ganllawiau pellach.

Os oes arnoch eisiau archwilio prentisiaethau, gallwch fwrw golwg ar hyb prentisiaethau UCAS am ragor o wybodaeth ac i chwilio am leoedd gwag. Gallwch hefyd chwilio am opsiynau eraill sydd ar gael mewn Addysg Uwch.

Gweler y manylion cyswllt isod ar gyfer unrhyw gymorth yn ystod cyfnod y canlyniadau arholiadau. 📱 💻

I dderbyn cyngor ac arweiniad gyrfaol yng Nghymru, gallwch gysylltu â Gyrfa Cymru ar 0800 028 4844 neu ddefnyddio’r gwe-sgwrs am gymorth yng Nghymru.

UCAS

Gallwch gysylltu ag UCAS ar gyfer cymorth gyda chanlyniadau arholiadau a chymorth gyda’r broses glirio.

Gallwch hefyd ddod o hyd i gymorth ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol UCAS ar Twitter.

Ystafell Fyfyrwyr

Gallwch ddod o hyd i gymorth ar yr Gwefan Ystafell Myfyrwyr.

Efallai eich bod yn ystyried Clirio fel opsiwn. Os felly, gallwch ymgeisio am gwrs gan ddefnyddio’r broses Glirio os yw un o’r canlynol yn wir:

- os ydych wedi colli dyddiad cau UCAS ar gyfer ceisiadau am gyrsiau sy’n dechrau yn 2024

- os nad ydych wedi cael unrhyw gynigion gan eich dewis pendant na’ch dewis wrth gefn.

- os ydych wedi newid eich meddwl am eich dewis pendant neu’ch dewis wrth gefn a bod arnoch eisiau ymgeisio am gwrs gwahanol neu brifysgol wahanol.

Chwiliwch drwy Offeryn chwilio’r broses glirio i ddod o hyd i gyrsiau sydd ar gael i chi neu gallwch ddefnyddio Clirio a Mwy i gael eich paru â chyrsiau trwy UCAS.

Gallwch gael manylion llawn y broses Glirio, a mynediad at offer chwilio UCAS, ar adran y broses Glirio ar wefan UCAS.

Bydd y broses glirio yn agor ar 5 Gorffennaf 2024.

Os ydych yn ystyried archwilio opsiynau eraill, gallwch:

- sgwrsio gydag ymgynghorydd gyrfaoedd i gael cymorth (gweler ‘cymorth gyda chanlyniadau arholiadau’ ar gyfer y manylion cyswllt).

- darllen ein canllaw i’ch helpu gyda’ch ymchwil.

- mynd ar daith rithwir a sgwrsio gyda myfyrwyr prifysgol i’ch helpu i ddod i wybod am y brifysgol neu’r coleg.

- edrych ar gyrsiau ar Discover Uni i weld profiadau myfyrwyr a’r hyn y maent wedi mynd ymlaen i’w wneud a’i ennill ar ôl graddio.

Ymuno â’r broses Glirio ar ôl cael canlyniadau arholiadau:

Os ydych yn ymuno â’r broses Glirio ar ôl cael eich canlyniadau arholiadau, bydd y broses Glirio’n brysur a dylai eich gwybodaeth fod yn barod gennych. Os byddwch yn penderfynu mynd trwy’r broses Glirio, bydd angen y canlynol arnoch:

- eich rhif adnabod a manylion mewngofnodi UCAS

- eich rhif clirio UCAS o hyb UCAS

- eich canlyniadau TGAU

- eich datganiad personol

- ffôn symudol wedi’i wefru’n llawn

Os ydych yn clirio ar ôl penderfynu peidio â derbyn eich lle cadarn, bydd angen i chi hunan-rhyddhau gan ddefnyddio’r botwm ‘gwrthod eich lle’ ar UCAS Trac, ond peidiwch â gwneud hyn nes i chi cael cynnig lle arall drwy glirio. Ni fydd angen i chi hunan-rhyddau os ydych yn newid cyrsiau yn yr un brifysgol.

Bydd angen i chi cadarnhau eich lle ar UCAS Trac unwaith i chi derbyn cynnig yr ydych yn hapus efo. Gallwch dim ond ychwanegu un dewis clirio ar UCAS Trac, felly peidiwch ag ychwanegu dewis clirio cyn i’r brifysgol creu cynnig i chi dros y ffon neu e-bost.

Os byddwch yn penderfynu gwneud cais am gwrs trwy’r broses Glirio, neu newid cyrsiau trwy’r broses Glirio, cofiwch ddiweddaru eich cais am gyllid myfyrwyr.

Os ydych yn meddwl bod rhywbeth wedi mynd o’i le yn y broses o bennu eich graddau, y cam cyntaf yw siarad gyda’ch ysgol. Mae’n bwysig ystyried y gallai eich marciau a’ch graddau fynd i lawr, aros yr un fath neu fynd i fyny, felly mae angen i chi sicrhau eich bod yn cael cyngor priodol cyn gofyn am apêl.

Mae’r broses apelio a dyddiadau cau ar gyfer apelio’n wahanol gan ddibynnu ble’r ydych yn byw yn y DU. Gwiriwch y dolenni isod am wybodaeth ar gyfer pob gwlad.

Gweler y canllawiau ynghylch y broses apelio ar gyfer Cymru.

Cymwysterau eraill

Gallwch ofyn i’ch ysgol, coleg neu ddarparwr hyfforddiant adolygu canlyniadau unrhyw gymhwyster arall, er enghraifft BTEC neu NVQ.

Os nad ydych yn fodlon ar y canlyniad, gallwch apelio’n uniongyrchol wrth y sefydliad dyfarnu . Byddant hwy’n anfon adroddiad terfynol atoch ar ôl iddynt adolygu’r canlyniad.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ynghylch apelio yn erbyn graddau ar gael gan UCAS .

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn barod i ddechrau yn y brifysgol eleni, neu os hoffech gymryd blwyddyn i ffwrdd yn awr, gallech ystyried gohirio. Mae hyn yn golygu eich bod yn ymgeisio i ddechrau eich cwrs flwyddyn yn ddiweddarach.

Os ydych yn gwneud cais trwy’r broses Glirio, dim ond ar gyfer y flwyddyn gyfredol y gallwch wneud cais – ni allwch ymgeisio am le wedi’i ohirio i ddechrau’r flwyddyn nesaf trwy’r broses Glirio.

Mae gennych yn union tan ddyddiad dechrau eich cwrs i benderfynu gohirio neu beidio, ond caiff y penderfyniad i dderbyn eich cais ei wneud yn ôl disgresiwn y brifysgol neu’r coleg. Gorau po gyntaf y byddwch yn siarad gyda nhw.

Cewch ragor o wybodaeth gan UCAS .

Mae cael eich canlyniadau arholiadau’n gallu bod yn amser sy’n llawn straen, felly mae’n bwysig gofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles. Gallwch ddod o hyd i gymorth yn ystod cyfnod y canlyniadau arholiadau trwy:

- Student Minds

- Student Space

- Young Minds

- Cymorth iechyd meddwl y GIG

Back
to top