Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn eich galluogi i ennill wrth ddysgu. Yma byddwn yn esbonio sut mae hyn yn gweithio, a sut mae cael mwy o wybodaeth.

Bydd prentisiaeth yn rhoi cyfle i chi gyfuno gweithio ac astudio. Mae hyn yn golygu y bydd modd i chi feithrin sgiliau sy'n gysylltiedig â gyrfa benodol, ennill cymhwyster ffurfiol ac ennill arian.

Gellir ennill cymwysterau prentisiaeth ar sawl lefel. Mae'r rhain yn amrywio rhwng sgiliau gweithredol, prentisiaethau TGAU a gradd-brentisiaethau.

Mae gwefan Prospects yn cynnwys gwybodaeth am wahanol lefelau prentisiaeth.

Bydd prentisiaeth uwch yn golygu bod yn rhaid i chi weithio ac astudio am gymhwyster addysg uwch ar yr un pryd. Gelwir hyn yn brentisiaeth i raddedigion yn yr Alban ac yn brentisiaeth lefel uwch yng Ngogledd Iwerddon.

Gradd-brentisiaeth yw math o brentisiaeth uwch lle'r ydych yn cael eich cyflogi wrth astudio gradd benodol neu gymhwyster ar lefel gradd.

Bydd prentisiaethau'n amrywio ar draws y DU. Ewch i Sut i gael mwy o wybodaeth ac ymgeisio.

Sut mae'n gweithio

Bydd cyfanswm yr oriau gwaith ac astudio yn gyfwerth â'r oriau ar gyfer swydd amser llawn. Bydd pob prentisiaeth yn wahanol, a'ch cyflogwr fydd yn penderfynu ar eich dull o ddysgu. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys dysgu gan gydweithwyr, hyfforddiant yn y gwaith a threulio amser mewn prifysgol neu goleg.

Mae'n cymryd rhwng dwy a chwe blynedd i gwblhau prentisiaeth uwch, prentisiaeth i raddedigion neu radd-brentisiaeth. Bydd hyn yn dibynnu ar natur y brentisiaeth, pa wlad yr ydych ynddi, y sector yr ydych wedi'i ddewis ac anghenion eich cyflogwr.

Beth fydd ei angen arnoch chi

I wneud cais am brentisiaeth ar y lefel hon, efallai y bydd angen ichi feddu ar gymhwyster lefel 3. Gallai hynny olygu prentisiaeth lefel is neu Safon Uwch, BTEC, NVQ neu gymwysterau cyfatebol.

Efallai y cewch eich derbyn gyda chymwysterau gwahanol os oes gennych lawer o brofiad yn y sector yr ydych wedi'i ddewis.

Bydd y swydd-ddisgrifiad ar gyfer y brentisiaeth yn cynnwys manylion yr hyn sydd ei angen arnoch a'r sgiliau y mae cyflogwr yn chwilio amdanynt

Eich hawliau

Fel prentis bydd gennych gontract cyflogaeth. Bydd y swm y byddwch yn ei ennill yn dibynnu ar natur y brentisiaeth.

Bydd gennych hawl i gael gwyliau gyda thâl a gwyliau banc.

Efallai y bydd gennych hawl i dderbyn cymorth ariannol ychwanegol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Darllenwch yr adran Sut y byddaf yn talu amdano?

Y manteision

Dyma fanteision prentisiaeth uwch, gradd-brentisiaeth neu brentisiaeth i raddedigion:

  • byddwch yn ennill wrth ddysgu
  • bydd eich cyflogwr ac/neu'r llywodraeth yn talu eich ffioedd
  • bydd cysylltiad uniongyrchol rhwng yr hyn yr ydych yn ei ddysgu a'r gyrfa a ddewiswyd gennych
  • cewch gyfleoedd da i gamu ymlaen yn eich gyrfa
  • byddwch yn meithrin sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy.

Pethau i'w hystyried

Mae prentisiaethau'n ffordd wych i allu ennill wrth ddysgu. Maen nhw'n cynnig llwybr sy'n seiliedig ar sgiliau i addysg uwch, ac yn golygu nad oes rhaid i chi gymryd benthyciadau. Fodd bynnag, nid ydynt yn opsiwn hawdd.

Gall fod yn anodd cael hyd i brentisiaethau uwch a phrentisiaethau gradd ac ôl-radd. Ceir mwy ohonynt bob blwyddyn, ond nid oes llawer o gyfleoedd i'w cael hyd yma, a gallant fod yn gystadleuol iawn.

Gall gweithio ac astudio ar yr un pryd fod yn anodd a bydd disgwyl ichi gyflawni yn y naill agwedd a'r llall. Mae'n syniad da edrych ar y manylion yn ofalus a phenderfynu a fydd hynny'n gweddu i chi.

Mae Which? University yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol yn ei ganllaw ar brentisiaethau uwch a gradd-brentisiaethau.

Os oes gennych anabledd a'ch bod yn ystyried prentisiaeth uwch neu radd, efallai y bydd y canllawiau hyn gan y Comisiwn Myfyrwyr Anabl yn ddefnyddiol ichi.

Lloegr

Gallwch ddarllen sut i fod yn brentis yn Lloegr ar wefan GOV.UK. Gallwch hefyd chwilio ac ymgeisio am brentisiaeth.

Gogledd Iwerddon

Mae gwefan nidirect yn cynnwys gwybodaeth am brentisiaethau. Gallwch hefyd chwilio am gyfleoedd.

Yr Alban

Skills Development Scotland sy'n cyflwyno prentisiaethau yn yr Alban. Cewch hyd i wybodaeth am brentisiaethau ar y wefan a gallwch hefyd chwilio am brentisiaeth.

Cymru

Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwybodaeth am brentisiaethau yng Nghymru a sut i ymgeisio amdanynt.

Ceir mwy o wybodaeth am brentisiaethau yng Nghymru, yn enwedig gradd-brentisiaethau, o Borth Sgiliau Busnes Cymru.

Gellir ennill cymhwyster addysg uwch drwy sawl ffordd wahanol. Dilynwch y dolenni yn Sut i gael mwy o wybodaeth ac ymgeisio i weld ai prentisiaeth yw'r llwybr i chi.

Back
to top