Pam mynd i'r brifysgol?

Gall addysg uwch fod yn brofiad sy'n talu ar ei ganfed. Gall agor pob math o gyfleoedd a'ch helpu i wireddu eich potensial.

Mae'r adran hon yn esbonio rhai o'r rhesymau dros fynd i'r brifysgol, a rhai o'r pethau yr hoffech feddwl amdanynt o bosib wrth benderfynu ai dyna'r dewis iawn i chi.

Gall mynd i'r brifysgol roi cyfle i chi astudio rhywbeth yr ydych yn teimlo'n angerddol yn ei gylch, neu feithrin diddordeb newydd. Efallai y byddwch wrth eich bodd yn dysgu neu'n mwynhau'r her.

Mae profi bywyd myfyriwr yn golygu mwy na dysgu yn unig, a gall fod yn brofiad buddiol iawn.

Mae gan lawer o brifysgolion a cholegau:

  • glybiau a chymdeithasau
  • chwaraeon a chyfleusterau eraill
  • cyfleoedd gwirfoddoli
  • undebau myfyrwyr.

Mae The Student Room yn cynnwys trafodaethau rhwng myfyrwyr ynghylch sut maen nhw'n elwa ar fywyd fel myfyriwr.

Gall gwneud pethau newydd eich helpu i fod yn fwy hyderus a meithrin sgiliau fel datrys problemau, meddwl yn greadigol ac astudio'n annibynnol.

Bydd cymryd rhan mewn gweithgareddau yn gyfle i chi:

  • gwrdd â phobl newydd
  • dod wyneb yn wyneb â gwahanol ddiwylliannau
  • deall y byd yn well
  • tyfu rhwydweithiau personol
  • datblygu ymdeimlad o berthyn.

Yn eich amser rhydd gallech gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil a rhoi cynnig ar wahanol swyddi rhan-amser. Efallai y bydd eich cwrs hefyd yn cynnwys cyfle i astudio dramor.

Os ydych yn meddu ar gymhwyster addysg uwch gall hynny roi cyfleoedd gwell ichi o ran gyrfa.

Efallai eich bod wedi meddwl am yrfa benodol, neu ddim. Y naill ffordd neu'r llall, bydd mynd i'r brifysgol yn rhoi cyfle i chi ddatblygu gwybodaeth a sgiliau yn y maes pwnc a ddewisir gennych.

Byddwch hefyd yn cwrdd â phobl newydd, a all eich helpu i adeiladu rhwydwaith proffesiynol.

Mae prifysgolion a cholegau hefyd yn cynnig cymorth i ddatblygu gyrfa, ac yn rhoi cyfle i chi:

  • archwilio gwahanol fathau o yrfa
  • cymryd rhan mewn lleoliad gwaith
  • creu cysylltiadau â chyflogwyr.

Bydd astudio yn eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy sy'n eich gwneud yn fwy deniadol i gyflogwyr, a hefyd yn cyfrannu at eich datblygiad personol. Gallai'r rhain gynnwys:

  • gweithio mewn tîm
  • cyfathrebu'n effeithiol
  • rheoli eich amser
  • sgiliau arwain
  • meddwl yn feirniadol.

Gwybodaeth a all eich helpu

Mae gan wefan Prospects wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud gyda'ch gradd.

Os ydych chi'n gwybod lle yr hoffech chi astudio, gallwch gysylltu â'r tîm gyrfaoedd yn y brifysgol neu'r coleg. Maen nhw yno i helpu ymgeiswyr yn ogystal â myfyrwyr presennol.

Er nad yw meddu ar gymhwyster addysg uwch yn rhoi sicrwydd o gyflog uwch, bydd graddedigion fel arfer yn ennill mwy o arian na phobl sydd heb gymhwyster addysg uwch.

Os yw'r hyn y gallech ei ennill ar ôl cymhwyso yn ffactor pwysig ichi wrth benderfynu, efallai y byddwch am ymchwilio i'ch cyflog dechreuol posibl ar ôl y cwrs a thrwy gydol eich gyrfa.

Gwybodaeth a all eich helpu

Mae'r proffiliau swydd ar wefan Prospects yn awgrymu cyflogau dechreuol gwahanol yrfaoedd.

Mae ein tudalen Rhagolygon Cyflogaeth yn cynnwys gwybodaeth am enillion graddedigion a all fod o gymorth ichi wrth benderfynu.

Bydd hi'n cymryd amser, egni ac ymroddiad i ennill cymhwyster addysg uwch. Mae'n werth meddwl am y llwyth gwaith a'r safon y bydd angen i chi ei chyrraedd er mwyn ennill y cymhwyster. Ystyriwch sut y bydd hyn yn cyd-fynd â rhannau eraill o'ch bywyd.

Gall astudio gyfyngu ar faint rydych yn gallu gweithio. Efallai na fyddwch wedi cyrraedd mor bell ag y gallech fod wedi gwneud pe baech wedi gweithio yn lle astudio.

Gall mynd i'r brifysgol fod yn gostus, nid yn unig y ffioedd dysgu os ydych yn byw mewn gwlad lle mae'n rhaid eu talu. Mae'n bosibl bod mwy o gymorth ariannol ar gael i chi nag yr ydych yn tybio, ond mae'n syniad da meddwl yn ofalus cyn ymrwymo.

Efallai y bydd opsiynau eraill yn gweddu ichi'n well neu'n eich galluogi i gyrraedd lle'r ydych chi eisiau bod o ran gyrfa.

Gwybodaeth a all eich helpu

Darllenwch yr adrannau Sut y byddaf yn talu amdano? a Costau i gael mwy o wybodaeth am gostau astudio a’r cymorth ariannol sydd ar gael.

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol yn rhoi arweiniad ar yrfaoedd a sgiliau.

Cewch wybodaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd yng Ngogledd Iwerddon drwy NIDirect.

Mae Skills Development Scotland yn cynnig arweiniad a gwybodaeth yn yr Alban.

Mae gan Gyrfa Cymru wybodaeth am swyddi, addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Gair o gyngor:

Siaradwch â ffrindiau, perthnasau, athrawon neu gyflogwyr i'ch helpu i feddwl am yr hyn yr ydych am ei gael o fynd i'r brifysgol.

Back
to top