Ynglŷn â'n data
Ystadegau swyddogol a grëwyd i'r diben hwn yw'r data ar Darganfod Prifysgol. Mae'r dudalen hon yn esbonio o le daw'r data, a'r hyn y byddwn yn ei wneud o ran eu cyhoeddi.
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
Arolwg blynyddol sy’n galluogi myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf i ddarparu adborth am eu profiad yn y brifysgol neu’r coleg yw’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS). Defnyddir y canlyniadau gan brifysgolion a cholegau i wella profiad myfyrwyr a gallant hefyd helpu ymgeiswyr i benderfynu rhwng cyrsiau.
Cynhelir yr arolwg gan Ipsos MORI ar ran y cyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch yn y DU.
Mae myfyrwyr yn ymateb i ddatganiadau gan ddefnyddio graddfa ac iddi bum pwynt o ‘anghytuno’n bendant’ i ‘cytuno’n bendant’. Y niferoedd a welwch ar Discover Uni yw canran y myfyrwyr sydd wedi ymateb gan ddweud naill ai eu bod yn ‘cytuno’n bendant’ neu’n ‘cytuno gan mwyaf’ â phob datganiad.
Effaith pandemig Covid-19?
Mae data’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ar Discover Uni o arolwg 2022 yn unig. Cynhaliwyd yr arolwg hwn yn ystod y cyfnod rhwng 6 Ionawr a 30 Ebrill 2022, ond bydd y myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf a arolygwyd yn rhai yr effeithiwyd ar gryn dipyn o’u hamser yn y brifysgol gan gyfyngiadau symud a chyfyngiadau eraill ar fywyd myfyrwyr oherwydd pandemig Covid-19.
Bu angen i’r rhan fwyaf o sefydliadau, cyrsiau a myfyrwyr newid eu dull mewn rhyw ffordd yn ystod y pandemig – er enghraifft trwy ddarparu darlithoedd ar-lein yn lle’u darparu yn y cnawd. Effeithiwyd yn fwy ar rai cyrsiau a sefydliadau na’i gilydd, er enghraifft cyrsiau ymarferol neu gyrsiau a leolir mewn labordai.
Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn gwahodd myfyrwyr i fyfyrio ynghylch eu profiad ar y cyfan fel myfyrwyr – a gellir tybio bod nifer wedi ymateb ar y sail honno, felly mae’n bosibl bod effaith y pandemig wedi bod ar feddyliau rhai myfyrwyr.
Mae canlyniadau o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn 2022 yn dangos y canlynol:
- Roedd barn gyffredinol y mwyafrif o fyfyrwyr am eu cwrs yn gadarnhaol. Gall hyn fod yn adlewyrchiad o ddychweliad dysgu wyneb-yn-wyneb ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau.
- Ceir cynnydd amlwg yng nghanran y myfyrwyr sy’n rhoi barn gadarnhaol am eu mynediad at adnoddau dysgu ar gyfer eu cwrs o’i gymharu â’r llynedd, tra bo’r farn am ansawdd yr addysgu’n dal i fod yn is na lefelau cyn y pandemig.
- Mae barn myfyrwyr sy’n astudio gwahanol bynciau’n amrywio – gydag 89% o fyfyrwyr milfeddygol yn mynegi barn gadarnhaol am ansawdd yr addysgu ar eu cwrs, o’i gymharu â 76 y cant o fyfyrwyr cyfrifiadura ledled y DU. Er bod llawer o bynciau wedi dangos arwyddion o adferiad ar ôl y pandemig, ceir gostyngiad bach yn y lefelau a fynegodd farn gadarnhaol ar gyfer meddygaeth a deintyddiaeth, a gwyddorau ffisegol, mewn ymateb i gwestiynau am ansawdd yr addysgu.
- Arhosodd y cyfraddau ymateb ar gyfer cwestiynau craidd yr arolwg yn uchel ar 68.6 y cant (cawsom 324,329 o ymatebion). Mae hyn yr un fath fwy neu lai â’r cyfraddau ymateb ar gyfer y ddwy flynedd flaenorol.
Yn flaenorol, rydym wedi dangos data a gymerwyd o'r flwyddyn ddiweddaraf neu ddata a gyfunwyd dros ddwy flynedd lle nad oes digon o fyfyrwyr mewn un flwyddyn o ddata i ni ei gyhoeddi. Y llynedd, fe ddewisom ni ddangos data o arolwg 2021 yn unig oherwydd effaith bosibl y pandemig ar ymatebion i’r arolwg ar gyfer y flwyddyn honno. Eleni, rydym eto’n meddwl y byddai’n amhriodol defnyddio data’r llynedd ar y cyd ag arolwg 2022, felly dim ond data ar gyfer yr arolwg diweddaraf yr ydym yn ei ddangos. Felly ni fyddwch yn gweld unrhyw ddata arolwg ar gyfer dwy flynedd (un flwyddyn ar gyfer cwrs neu un flwyddyn ar gyfer pwnc fydd y data).
Cyn i ni gyhoeddi unrhyw ffigyrau sy’n seiliedig ar yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr rydym yn sicrhau yn gyntaf bod o leiaf 10 o bobl wedi ymateb ar gyfer y cwrs neu’r pwnc yr adroddir arno a’u bod yn rhoi cyfrif am o leiaf hanner (50%) y bobl a allai fod wedi ymateb.
Yr arolwg Deilliannau Graddedigion
Mae’r arolwg Deilliannau Graddedigion (GO) yn casglu gwybodaeth gan fyfyrwyr 15 mis ar ôl iddynt orffen eu cwrs. Mae’n gofyn iddynt beth maent yn ei wneud ar hyn o bryd, faint o gyflog y maent yn ei ennill, a beth yw eu canfyddiadau am waith yn dilyn graddio o’u cwrs. Cynhelir yr arolwg hwn gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).
Mae ein tudalen ‘enillion a chyflogaeth’ yn darparu rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i ddefnyddio’r data a ddarperir ar Discover Uni.
Daw’r data yr ydym yn ei ddangos ar Discover Uni o’r arolwg Deilliannau Graddedigion diweddaraf, sy’n cynnwys graddedigion a gwblhaodd eu cyrsiau addysg uwch rhwng mis Awst 2019 a mis Gorffennaf 2020. Cyfunir hwn weithiau â data arolwg o’r arolwg Deilliannau Graddedigion blaenorol (ar gyfer graddedigion 2018-19). Rydym yn cyfuno dwy flynedd o ddata arolwg pan nad oes digon o fyfyrwyr yn y flwyddyn ddiweddaraf o ddata i ni allu cyhoeddi’r data. Bydd wedi’i nodi ar bob tudalen cwrs pa un a yw’r data’n defnyddio un flwyddyn ynteu dwy flynedd o ddata arolwg.
Rydym yn defnyddio data Deilliannau Graddedigion i grynhoi’r ystadegau mewn nifer o adrannau ar ein tudalennau cyrsiau. Cyn i ni gyhoeddi unrhyw ffigyrau sy’n seiliedig ar yr arolwg Deilliannau Graddedigion, rydym yn sicrhau yn gyntaf bod o leiaf 10 o bobl wedi ymateb ar gyfer y cwrs neu’r pwnc yr adroddir arno a’u bod yn rhoi cyfrif am o leiaf hanner (50%) y bobl a allai fod wedi ymateb.
Effaith pandemig Covid-19?
Fe wnaeth llawer o’r graddedigion a gafodd eu cynnwys yn yr arolwg Deilliannau Graddedigion diweddaraf raddio i mewn i’r pandemig ac fe’u harolygwyd i gyd yn erbyn cefnlen y pandemig.
Fe wnaeth HESA, a gynhaliodd yr arolwg, adolygu data’r arolwg ar gyfer effeithiau’r pandemig ar brofiad y graddedigion hyn. Ychydig o newid a welsant ar y cyfan a daethant i’r casgliad y byddai unrhyw effaith yn amrywio o un cwrs i’r llall ac mewn ffyrdd na ellir eu canfod o’r data.
Mae canlyniadau’r adolygiad yn cynnwys y canlynol:
- Roedd cyfraddau cyflogaeth ar gyfer graddedigion 2019/20 ychydig yn uwch nag ar gyfer graddedigion 2018/19. Mae hyn yn dangos carfan o raddedigion sydd, er gwaethaf heriau’r ddwy flynedd ddiwethaf, yn gweithio neu’n astudio ar gyfraddau nad ydynt yn wahanol iawn i’r rhai a welsom cyn i’r pandemig ddechrau.
- Mae oddeutu tri chwarter y graddedigion sydd mewn cyflogaeth mewn galwedigaethau â sgiliau uchel, ac mae hyn wedi aros yn weddol sefydlog ers dechrau’r pandemig.
Yn yr adran ‘Enillion ar ôl y cwrs’
Yn yr adran hon, defnyddir data Deilliannau Graddedigion i gyflwyno enillion cyfartalog graddedigion 15 mis wedi iddynt orffen eu cwrs.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwymplen i weld data enillion Deilliannau Graddedigion ar lefel y DU neu ar lefel genedlaethol (Cymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon). Mae’r data yma wedi cael ei gyhoeddi i ddarparu cyd-destun. Mae hyn yn golygu y gallwch weld yr enillion cyfartalog ar gyfer graddedigion o bob cwrs yn y pwnc sy’n byw neu’n gweithio yn y lleoliad a ddewiswyd. Gan bod enillion yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd mewn rhai rhanbarthau, rydym hefyd yn cynnwys canran y graddedigion o’r sefydliad sydd wedi’u lleoli yn y dewis ranbarth. Mae hyn yn rhoi arwydd pa un a yw’r ffigwr rhanbarthol yr ydych chi wedi’i ddewis yn feincnod da ar gyfer y sefydliad.
Sylwer nad ydym yn cynnwys data enillion ar gyfer y rhai sy’n hunangyflogedig.
Fe gewch hefyd ddata enillion yn yr adran hon o’r set ddata Deilliannau Addysg Hydredol (LEO). Rydym wedi defnyddio data LEO i gyflwyno’r enillion ar gyfer yr un grŵp o fyfyrwyr dair a phum mlynedd ar ôl iddynt raddio. Gweler yr adran LEO isod am ragor o fanylion. Mae’r holl wybodaeth am enillion yn yr adran hon wedi cael ei thrin a’i chrynhoi mewn ffyrdd tebyg i wneud cymariaethau mor ystyrlon â phosibl.
Yn yr adran ‘Cyflogaeth 15 mis ar ôl y cwrs’
Defnyddir data Deilliannau Graddedigion i ddangos canrannau’r graddedigion sy’n gweithio, yn astudio, yn gweithio ac yn astudio, ac yn ddi-waith, 15 mis ar ôl cwblhau eu cwrs.
Fe welwch hefyd y math o alwedigaethau y mae’r graddedigion hyn yn gweithio ynddynt, 15 mis ar ôl graddio o’r cwrs a pha un a yw’r rhain yn cael eu hystyried yn rhai â sgiliau uchel (sy’n golygu eu bod yn cael eu hystyried yn alwedigaethau proffesiynol neu reolaethol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae galwedigaethau wedi cael eu dosbarthu gan ddefnyddio system Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol (SOC) 2020.
Yn yr adran ‘Canfyddiadau Graddedigion’
Yma fe gewch ganrannau’r graddedigion a oedd yn cytuno, 15 mis ar ôl graddio, bod yr hyn y gwnaethant ei ddysgu ar eu cwrs yn ddefnyddiol ar gyfer yr hyn yr oeddent yn ei wneud ar y pryd, eu bod yn cael eu gwaith yn ystyrlon, a bod eu gwaith yn cyd-fynd â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn croesawu adborth ar ba mor ddefnyddiol yw’r ystadegau a beth ellir ei wneud i’w gwella. Gallwch ganfod mwy am sut y cynhyrchir yr ystadegau a darparu adborth ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.
Set ddata Deilliannau Addysg Hydredol
Diweddariad i’r data Enillion ar gyfer 3 a 5 mlynedd ar ôl graddio
Cyhoeddwyd y data ‘Enillion ar ôl y cwrs’ ar gyfer 3 blynedd a 5 mlynedd ar ôl graddio ar Darganfod y Brifysgol ym mis Medi 2022. Defnyddiodd hwn wybodaeth gan fyfyrwyr a raddiodd yn ystod 2011-13. Diweddarwyd y data ar Darganfod Prifysgol ar 30 Tachwedd 2022 pan gyhoeddwyd data newydd gan yr Adran Addysg (DfE), sy’n defnyddio gwybodaeth gan fyfyrwyr a raddiodd yn 2012-14.
Ni fu unrhyw newidiadau sylweddol i ddata enillion LEO y tu hwnt i'r hyn a fyddai'n amrywiadau arferol o flwyddyn i flwyddyn ar enillion pobl, gan gynnwys graddedigion. Sylwch, fodd bynnag, y gallai fod newidiadau rhwng y data 'Enillion ar ôl y cwrs' a ddangoswyd ar y wefan rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2022, a'r data wedi'i ddiweddaru a ddisodlodd ar 30 Tachwedd 2022 ac sy'n cael ei arddangos ar hyn o bryd.
Set ddata Deilliannau Addysg Hydredol
Mae’r set ddata Deilliannau Addysg Hydredol (LEO) yn defnyddio cofnodion treth y llywodraeth i ganfod data enillion ar gyfer graddedigion. Nid yw’n dibynnu ar ymatebion gan raddedigion i arolwg. Gan ei bod yn seiliedig ar gofnodion treth TWE mae’n fwy cyflawn na data arolwg hunangofnodedig. Nid ydym yn cyhoeddi data LEO ar gyfer cyrsiau unigol; mae’r data enillion yma wastad yn cael ei grwpio fesul maes pwnc ar gyfer gwerth dwy flynedd o raddedigion.
Yn yr adran ‘Enillion ar ôl y cwrs’
Rydym yn defnyddio data LEO yn yr adran hon ar y tudalennau cyrsiau ar Discover Uni i ddangos data enillion ar gyfer yr un grŵp o fyfyrwyr dair a phum mlynedd ar ôl iddynt raddio. Mae’r data a gyhoeddir ar gyfer y meysydd pwnc y mae’r cwrs yn eu cwmpasu ar gyfer yr holl raddedigion yn y sefydliad sy’n cynnig y cwrs, nid y cwrs penodol ei hun.
Byddwch hefyd yn gallu defnyddio’r gwymplen i weld data enillion LEO ar lefel y DU (heb gynnwys graddedigion o sefydliadau yng Ngogledd Iwerddon); ar lefel genedlaethol (Cymru, Lloegr neu’r Alban); rhanbarthau yn Lloegr a dinasoedd craidd yng Nghymru a’r Alban. Nid yw data ar gyfer Gogledd Iwerddon yn cael ei gynnwys am nad yw data gan raddedigion Gogledd Iwerddon yn cael ei gynnwys yn y set ddata LEO.
Gallwch weld yr enillion cyfartalog a’r amrediad nodweddiadol ar gyfer graddedigion o bob cwrs yn y pwnc sy’n byw neu’n gweithio yn y lleoliad a ddewiswyd. Mae’r data yma wedi cael ei gyhoeddi i adael i chi weld sut y mae enillion y pwnc ar gyfer y sefydliad yn cymharu ag enillion yr holl raddedigion yn y pwnc hwnnw ar gyfer y dewis ranbarth. Gan bod enillion yn gallu bod yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd mewn rhai rhanbarthau, rydym hefyd yn cynnwys canran y graddedigion o’r dewis sefydliad a phwnc sydd wedi’u lleoli yn y rhanbarth. Mae hyn yn rhoi arwydd pa un a yw’r ffigwr rhanbarthol yr ydych chi wedi dewis ei weld yn feincnod da ar gyfer y sefydliad.
Fe gewch hefyd ddata cyflogau yn yr adran hon o’r set ddata Deilliannau Graddedigion (GO). Gweler yr adran Deilliannau Graddedigion uchod am ragor o fanylion. Mae’r holl wybodaeth am enillion yn yr adran hon wedi cael ei thrin a’i chrynhoi mewn ffordd debyg i wneud cymariaethau mor ystyrlon â phosibl.
Ynglŷn â’r data LEO a ddangosir ar Discover Uni
Dyma rai pethau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt wrth ddefnyddio’r data LEO ar Discover Uni:
- Dim ond data LEO ar gyfer cyrsiau a addysgir ym mhrifysgolion a cholegau Cymru, Lloegr a’r Alban yr ydym yn ei gyhoeddi. Nid oes data LEO ar gael ar gyfer cyrsiau yng Ngogledd Iwerddon.
- Mae’r data LEO yn dangos faint oedd graddedigion a oedd yn gweithio yn y DU yn ei ennill dair blynedd a phum mlynedd ar ôl graddio. Mae’r data’n dangos yr ystadegau hyn ar gyfer yr un garfan o fyfyrwyr.
- Mae’r data’n cynnwys incwm trethadwy ar gyfer y rhai yr oedd treth yn cael ei didynnu wrth y ffynhonnell ar eu cyfer gan eu cyflogwr. Nid yw’n cynnwys enillion ar gyfer y rhai a oedd yn hunangyflogedig.
- Mae’r data a gyhoeddir ar gyfer maes pwnc y cwrs dros ddwy flynedd dreth. Dim ond pan fo gennym ddata LEO ar gyfer o leiaf 15 o raddedigion yr ydym yn ei gyhoeddi.
- Mae’r data’n cynnwys enillion ar gyfer gweithwyr amser llawn a rhan-amser, sy’n golygu y gall ffigyrau ymddangos yn is lle mae mwy o raddedigion yn dewis gweithio’n rhan-amser.
Mae ein tudalen ‘cyflogaeth ac enillion’ yn darparu rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r data enillion a ddarperir ar Discover Uni.
Mae’r data LEO a ddefnyddir ar Discover Uni yn eiddo i Adran Addysg y DU. Nid yw’r Adran Addysg yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau y daw trydydd partïon iddynt ar sail y data LEO.
Data a gasglwyd o brifysgolion a cholegau ar fyfyrwyr unigol
Mae’r cyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch yn y DU yn casglu data o brifysgolion a cholegau am eu holl fyfyrwyr unigol. Rydym yn defnyddio’r data yma i greu rhai o’r ystadegau a ddefnyddir gennym.
Y setiau data a ddefnyddir gennym yw:
Cofnod Myfyrwyr Darparwyr Amgen (AP) HESA
Cofnod Dysgwyr Unigol a gesglir gan yr Asiantaeth Cyllido Addysg a Sgiliau
ac mae’r data a ddefnyddir gennym yn ymwneud â blynyddoedd academaidd 2018-19, 2019-20 a 2020-21 oni nodir yn wahanol.
Parhad
Rydym yn defnyddio’r data yma i ddweud wrthych beth mae myfyrwyr yn ei wneud flwyddyn ar ôl dechrau’r cwrs. Gelwir nifer y myfyrwyr sy’n dal i astudio’n ‘gyfradd parhad’. Mae’r ffigyrau hyn yn seiliedig ar ganran y myfyrwyr a ddechreuodd yn 2018-19 ac a wnaeth barhau yn ystod 2019-20 a’r rhai o 2019-20 a wnaeth barhau yn ystod 2020-21.
Nid yw’n beth anarferol i rai myfyrwyr adael yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Er ei bod yn dda gweld niferoedd uwch o fyfyrwyr yn parhau ar gwrs ar ôl un flwyddyn, gall fod nifer o resymau pam fod myfyrwyr yn dewis cymryd saib neu adael y cwrs. Mae’n bwysig cofio mae ciplun mewn amser yw hwn – nid tuedd ar gyfer cwrs. Os yw’r gyfradd parhad lawer yn is na chyrsiau eraill gallai hyn fod yn arwydd nad yw’r cwrs yn cwrdd â disgwyliadau myfyrwyr.
Gwybodaeth Mynediad
Mae hyn yn dangos y cymwysterau a gwerthoedd pwyntiau tariff a oedd gan newydd-ddyfodiaid blaenorol (nid y gofynion mynediad ar gyfer cwrs). Mae’n rhoi darlun o’r amrediad o gymwysterau yr oedd y rhai a ddechreuodd y cwrs yn meddu arnynt a’r ‘graddau’ a enillwyd ganddynt. Cofiwch, caiff penderfyniadau gan sefydliadau i gynnig lleoedd i ymgeiswyr eu gwneud ar sail ystod o feini prawf – nid dim ond y cymwysterau neu’r graddau a enillwyd.
Mae’r data ar bwyntiau Tariff UCAS yn dangos y cyfartaledd ar gyfer cymwysterau yn seiliedig ar newydd-ddyfodiaid ym mlwyddyn academaidd 2020-21, ac weithiau newydd-ddyfodiaid 2019-20 a 2020-21 wedi’u cyfuno pan fo’r niferoedd ar gyfer y cwrs neu’r pwnc yn rhy fach i gyhoeddi’r data ar gyfer blwyddyn unigol.
Mae’n bwysig gwybod bod rhai prifysgolion a cholegau’n derbyn ystod ehangach o gymwysterau ar gyfer mynediad i’w cyrsiau, y mae rhai ohonynt yn rhai na roddir cyfrif amdanynt ym mhwyntiau Tariff UCAS. Mae hyn yn golygu efallai nad yw’r data pwyntiau tariff a ddangosir gennym ar gyfer rhai cyrsiau’n adlewyrchu’r gwerth a gyflawnwyd a'r graddau a enillwyd gan rai myfyrwyr a dderbyniwyd ar y cwrs. Gall hyn effeithio ar y mwyafrif o’r cyrsiau mewn rhai sefydliadau â chyfrannau uwch o fyfyrwyr rhyngwladol neu fyfyrwyr nad ydynt o’r DU ymhlith y ffrwd o fyfyrwyr a dderbyniwyd ar y cwrs.
I gael rhagor o wybodaeth am Dariff UCAS a gofynion mynediad, gweler ein tudalen ‘Gofynion mynediad’.
Deall y data
Defnyddio data yn eich penderfyniadau
Mae'r data rydym yn ei gyhoeddi ar wefan Darganfod Prifysgol yn dod o ffynonellau dibynadwy ac fe all eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus.
Mae'n bwysig nad ydych yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar wahaniaethau bach rhwng cyrsiau. Yn hytrach, edrychwch am wahaniaethau mawr, ac yn enwedig lle mae ffigurau yn llawer is nag ar gyfer cyrsiau eraill rydych yn eu hystyried. Mwy o wybodaeth am gymharu cyrsiau.
Meintiau sampl a chyfraddau ymateb
Ar wefan Darganfod Prifysgol, rydym yn dweud wrthych faint o fyfyrwyr mae'r data rydym yn ei gyhoeddi yn deillio ohonynt ac, os ydoedd o arolwg, y gyfradd ymateb.
Gallai'r niferoedd hyn fod yn llai na’r disgwyl, gan ein bod yn ceisio cyhoeddi data ar gyfer y cwrs ac nid oes gan bob cwrs niferoedd mawr o fyfyrwyr arno.
Mae cyfradd ymateb uchel gan nifer fawr o fyfyrwyr yn golygu y gallwch fod yn fwy hyderus yn y data. Gyda niferoedd llai, mae'n arbennig o bwysig nad ydych yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar wahaniaethau bach.
Rydym ond yn cyhoeddi data os ydyw gennym am fwy na nifer benodol o fyfyrwyr. Mae hyn yn rhannol er mwyn diogelu eu hunaniaeth ac yn rhannol i sicrhau dibynadwyedd yr hyn yr ydym yn ei gyhoeddi. Ar gyfer arolygon, nid ydym yn cyhoeddi data os yw cyfraddau ymateb yn isel.
Ar gyfer y rhan fwyaf o'r data, mae angen data gan o leiaf deg myfyriwr i'w gyhoeddi. Ar gyfer CAH, mae angen o leiaf 15 myfyriwr arnom.
Cyrsiau bach
Ar gyfer llawer o gyrsiau llai, mae'n bosibl na fydd gennym ddata gan ddigon o fyfyrwyr i allu ei gyhoeddi. Fel y gallwn ddangos rhywfaint o ddata, rydym yn grwpio data ar gyfer cyrsiau yn yr un maes pwnc yn y brifysgol neu goleg hwnnw.
Rydym yn dweud lle rydym wedi gwneud hyn ar y dudalen cyrsiau a’r offeryn cymharu cyrsiau.
Cyrsiau cydanrhydedd a chyrsiau gyda data ar gyfer mwy nag un pwnc
Mai rhai cyrsiau yn cwmpasu mwy nag un maes pwnc, gan weithiau arwain at ddyfarniad a elwir yn gydanrhydedd (megis "BSc Mathemateg a Chyfrifiadureg"). Lle mae gan gwrs fwy nag un pwnc, rydym yn ceisio cyflwyno eitemau data yn seiliedig ar y bobl sy'n astudio'r cwrs hwnnw yn unig.
Weithiau os nad oes digon o bobl yn astudio'r cwrs, neu nad oes digon wedi ymateb i arolwg, rydym yn cynnwys data ar gyfer pawb yn y sefydliad sy'n astudio cyrsiau sy'n cynnwys y pynciau hynny. Er enghraifft, mae hyn yn golygu yn ein henghraifft uchod y byddem yn cyflwyno ffigurau ar wahân ar gyfer Mathemateg ac ar gyfer Cyfrifiadureg. Caiff y rhain eu cyflwyno fel tabiau ar y tudalennau cyrsiau. Gall rhai cyrsiau eang iawn gyda dewisiadau agored rhwng llawer o fodiwlau fod â chymaint â phum maes pwnc, neu hyn yn oed fwy.
Wrth feddwl am gwrs lle mae ffigurau ar gyfer mwy nag un pwnc yn cael eu cyflwyno, mae'n bwysig edrych ar yr holl bynciau. Dylech hefyd feddwl am sut y gallai'r ffigurau pwnc hyn adlewyrchu'r cwrs rydych yn edrych arno, a allai ond gynrychioli nifer fach o fyfyrwyr sy'n astudio yn y meysydd pwnc hynny.
Cyrsiau newydd
Lle mae cyrsiau yn newydd neu heb unrhyw fyfyrwyr sydd wedi eu cwblhau eto, rydym yn cyhoeddi data ar gyfer cyrsiau eraill yn y maes pwnc hwnnw. Pwrpas hwn yw rhoi rhyw fath o syniad i chi o brofiad a chanlyniadau'r myfyrwyr yn y prifysgolion a cholegau hynny.
Eto, rydym yn dweud lle rydym wedi gwneud hyn ar y tudalen cyrsiau mewn blwch melyn.
Talgrynnu
Rydym yn cyhoeddi data'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr i'r pwynt canran agosaf. Ar gyfer data eraill, os oes gennym ddata ar gyfer llai na 52.5 o bobl, rydym yn talgrynnu'r data i'r pum pwynt canran agosaf. Mae niferoedd y bobl hefyd bob amser yn cael eu talgrynnu i'r pump agosaf.
Gall hyn olygu nad yw cyfanswm y ffigurau a ddangosir bob amser yn 100 y cant. Gall y cyfanswm yn hytrach fod yn 95 y cant neu 105 y cant pan ydych yn eu hychwanegu at ei gilydd.
Adborth
Byddem yn croesawu unrhyw adborth ar ba mor ddefnyddiol yw'r ystadegau a’r hyn y gellir ei wneud i'w gwella.
Back
to top
to top