Canllawiau ar gyfer cymharu cyrsiau

Mae gwefan Darganfod Prifysgol yn eich caniatáu i gymharu data swyddogol gan gyrsiau addysg uwch y DU rydych â diddordeb ynddynt, fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â dewis yr opsiwn gorau i chi.

Unwaith eich bod wedi chwilio am eich cyrsiau a’u cadw ar wefan Darganfod Prifysgol, byddwch yn gallu eu cymharu gan ddefnyddio'r offeryn cymharu cyrsiau. Mae'r offeryn yn eich caniatáu i gymharu gwybodaeth hyd at saith cwrs ar y pryd.

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gymharu cyrsiau gan ddefnyddio'r data rydym yn ei ddarparu fel rhan o'ch ymchwil a phroses gwneud penderfyniadau. Mae'n cwmpasu rhai pethau pwysig sydd angen i chi eu hystyried:

  • Mae data'r cyrsiau yn cyflwyno cipolwg ar bwynt mewn amser – gallai eich profiad chi fod yn wahanol.
  • Mae rhywfaint o'r data o fyfyrwyr a arolygwyd yn ystod y pandemig COVID-19.
  • Mae'n bwysig cymryd amser i ddeall y cwrs, neu ddata'r maes pwnc, a sut mae'n gweddu ochr yn ochr â'r wybodaeth arall sydd ar gael am y cyrsiau a phrifysgolion neu golegau mae gennych ddiddordeb ynddynt, megis y modiwlau ac opsiynau a gynigir gan y cyrsiau gwahanol a pha rai sy'n atyniadol i chi.

Darllenwch fwy am ganllawiau ar sut i sicrhau eich bod yn cael y gorau allan o'n hofferyn cymharu. Gallwch hefyd gael cipolwg ar ein fideo i weld sut mae ein hofferyn newydd i gymharu cyrsiau yn gweithio.

I gychwyn, dyma ein hawgrymiadau gorau:

  • Mae rhai data yn benodol ar gyfer y cwrs hwnnw, tra bo rhai data ar gyfer hwnnw a chyrsiau tebyg eraill yn yr un maes pwnc a sefydliad, a fydd yn dal yn rhoi amlinelliad da o farn myfyrwyr.

  • Mae arolygon yn adlewyrchu pwynt mewn amser – mae'n bosibl y byddai rhai myfyrwyr yn ymateb yn wahanol ar ddiwrnod gwahanol. Gall ddarparu rhan ddefnyddiol o'r darlun, ond nid y darlun cyfan. Dylech drin y wybodaeth a gyflwynir fel canllaw defnyddiol, ond gallai eich profiad a/neu ofynion fod yn.

  • Ceisiwch feddwl wrth gymharu cyrsiau p'un a yw'r holl ddata rydych yn ei gymharu wedi dod o flwyddyn neu ddwy flynedd. Mae data dros ddwy flynedd yn golygu ei fod gan nifer fwy o fyfyrwyr, ond mae hefyd gan fyfyrwyr mewn grwpiau.

  • Mae pob carfan o fyfyrwyr a recriwtiwyd i gwrs yn wahanol a gall hyn ddylanwadu ar ddata'r arolwg. Gellir bod llawer o resymau i unigolyn gael barn benodol ac mae'n bosibl na fydd yn seiliedig ar y meini prawf sydd o bwys i bawb.

  • Cymerwch amser i ddeall data'r cyrsiau a sut mae'n gweddu ochr yn ochr â'r wybodaeth arall sydd ar gael am y cyrsiau a’r prifysgolion neu golegau y mae gennych.

  • Defnyddiwch y wybodaeth a gyflwynwyd fel canllaw ddefnyddiol ond cofiwch, gallai eich profiad a gofynion fod yn wahanol i fyfyrwyr blaenorol.

Wrth gymharu gyrsiau, mae yna rai cwestiynau allweddol y gallwch ofyn i'ch hun am y data:

Mae yna ddwy brif lefel o ddata ar wefan Darganfod Prifysgol: data lefel cwrs a data lefel pwnc.

  • Lle bynnag y bo modd, rydym bob amser yn ceisio dangos data ar gyfer y cyrsiau penodol yr ydych yn eu cymharu. Ein polisi yw cyhoeddi data sy'n seiliedig ar o leiaf deg myfyriwr ac, yn achos data arolwg, gan o leiaf hanner y myfyrwyr ar gwrs. Pan nad yw hyn yn bosibl ar gyfer cwrs penodol – er enghraifft, os nad oes digon o fyfyrwyr ar gwrs Sbaeneg – gwnawn ddangos canlyniadau yr holl fyfyrwyr sy'n astudio ieithoedd yn y sefydliad hwnnw yn hytrach. Rydym bob amser yn labelu'r data yn ofalus i sicrhau y gallwch ddweud pan ydym yn dangos data maes pwnc yn hytrach na data cwrs.

  • AWGRYMIAD: Mae rhai data yn benodol ar gyfer y cwrs hwnnw, tra bo rhai data ar gyfer hwnnw a chyrsiau tebyg eraill yn yr un maes, a fydd yn dal yn rhoi amlinelliad da o farn myfyrwyr. Mae data dros ddwy flynedd yn golygu ei fod gan nifer fwy o fyfyrwyr, ond mae hefyd gan fyfyrwyr mewn grwpiau blwyddyn gwahanol.

  • Mae'r data y byddwch yn ei weld o un neu ddwy garfan o fyfyrwyr, sy'n golygu y gallai rhywfaint o ddata fod ar gyfer un grŵp unigol o fyfyrwyr neu'n ddata o ddau grŵp o fyfyrwyr.

  • Mae'r data 'gwybodaeth mynediad' ac 'ar ôl blwyddyn' rydym yn eu dangos un ai yn cael eu cymryd o un flwyddyn academaidd neu'n cael eu cyfuno dros ddwy flynedd, a bydd hyn bob amser yn eglur o'r ffordd y caiff y data ei labelu. Rydym yn dangos data am ddwy flynedd lle nad oes digon o fyfyrwyr mewn blwyddyn o ddata i ni ei gyhoeddi.

Mae data canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, cyflogau, cyflogaeth a chanfyddiadau graddedigion yr ydym yn ei arddangos o un flwyddyn yn unig. Mae'r data hyn o'r arolygon graddedigion a myfyrwyr diweddaraf. Rydym ond yn defnyddio'r data o'r un flwyddyn o'r arolygon hyn gan ei fod yn osgoi y sefyllfa lle byddech yn gweld data ar gyfer un flwyddyn ar gyfer rhai cyrsiau ac yn ei gymharu â data ar gyfer dwy flynedd ar gyfer cyrsiau eraill. Gallai hyn roi cyrsiau yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig dan anfantais sydd yn annheg.

  • AWGRYMIAD: Ceisiwch feddwl wrth gymharu cyrsiau p'un a yw'r holl ddata rydych yn ei gymharu wedi dod o flwyddyn neu ddwy flynedd. Mae data dros ddwy flynedd yn golygu ei fod gan nifer fwy o fyfyrwyr, ond mae hefyd gan fyfyrwyr mewn grwpiau blwyddyn gwahanol.
  • Mae gan gyrsiau niferoedd gwahanol o fyfyrwyr yn astudio arnynt. Caiff pob darn o ddata ar wefan Darganfod Prifysgol ei labelu â nifer y bobl y mae'n seiliedig arnynt. Mae rhai cyrsiau yn fwy, a rhai yn llai. Ein polisi yw ond cyhoeddi data sy'n seiliedig ar o leiaf deg myfyriwr. Mae hyn fel na ellir adnabod ymatebion unigolion.

  • Edrychwch yn ofalus ar faint o fyfyrwyr mae ffigur wedi'i seilio arnynt. Wrth feddwl am yr hyn y gall y data ddweud wrthych am gwrs, mae mwy o bobl yn golygu ei fod am roi llun mwy eglur o brofiad y myfyrwyr. Hefyd, ystyriwch y ganran o fyfyrwyr a ymatebodd i'r arolwg. Eto, po uchaf yw canran y myfyrwyr ar gwrs sy’n cymryd rhan yn yr arolwg, y mwyaf tebygol ydyw i roi darlun mwy eglur o brofiad myfyrwyr.

  • Pan fo data ond yn seiliedig ar nifer fach o ymatebion arolwg, fel gydag unrhyw wybodaeth gan nifer fach o bobl, mae'n ganllaw defnyddiol, ond dylid ei drin yn ofalus.

  • AWGRYMIAD: Mae pob carfan o fyfyrwyr a recriwtiwyd i gwrs yn wahanol a gall hyn ddylanwadu ar ddata'r arolwg. Gellir bod llawer o resymau i unigolyn gael barn benodol ac mae'n bosibl na fydd yn seiliedig ar y meini prawf sydd o bwys i bawb.
  • Mae data'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) a Hynt Graddedigion (HG) ar y dudalen cyrsiau a'r dudalen gymharu yn seiliedig ar ymatebion i arolygon. Arolygon yw un o'r ffyrdd gorau o gael gwybodaeth gan lawer o bobl, ond drwy eu natur, nid ydynt yn cofnodi barn pob unigolyn ar y cwrs. Er mwyn cyhoeddi data gan yr ACF ac arolygon HG, mae'n rhaid i ni gael o leiaf deg ymateb gan fyfyrwyr fesul cwrs a gan o leiaf hanner y myfyrwyr ar gwrs. Mae hyn er mwyn sicrhau ei fod yn gynrychioliadol o'r myfyrwyr ar y cwrs.

  • Fodd bynnag, fel pob arolwg, mae yna siawns bob amser nad yw'r data rydym yn ei ddangos yn cynrychioli barn neu ganlyniadau’r holl fyfyrwyr ar y cwrs neu bwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo. Mae tri rheswm am hyn:

  • Effaith y pandemig: gallwch ddod o hyd i wybodaeth am effaith bosibl y pandemig yn ein hadran 'Ynglŷn â'n data'.

  • AWGRYMIAD: Fel gydag unrhyw wybodaeth gan nifer fach o bobl, dylid trin y data arolwg ar wefan Darganfod Prifysgol yn ofalus pan caiff ond ei seilio ar nifer fach o ymatebion.
  • Cymerir y data a ddefnyddiwn i gyflwyno'r ffigurau ar wefan Darganfod Prifysgol gan garfannau penodol o fyfyrwyr mewn blwyddyn benodol. Gallai'r myfyrwyr hyn fod yn debyg neu'n anhebyg i chi. Gallent werthfawrogi agweddau gwahanol o'u cyrsiau i chi neu roi llai o bwyslais ar ganlyniadau rydych chi'n meddwl sy'n bwysig. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y gallai eu hymatebion i’r arolwg fod yn wahanol i'r ymatebion y byddech wedi'u rhoi pe byddech wedi cymryd yr un cwrs. Gallech hefyd fod ag anghenion neu ddiddordebau penodol nad ydynt yn cael eu cynrychioli yn y data rydym yn ei ddal ar gyfer cwrs.

  • AWGRYMIAD: Mae arolygon yn adlewyrchu pwynt mewn amser – mae'n bosibl y byddai rhai ymatebwyr yn ymateb yn wahanol ar ddiwrnod gwahanol. Gallant ddarparu rhan ddefnyddiol o'r darlun, ond nid y darlun cyfan. Mae'n bwysig cymryd amser i ddeall y cwrs, neu ddata'r maes pwnc, a sut mae'n gweddu ochr yn ochr â'r wybodaeth arall sydd ar gael am y cyrsiau a’r prifysgolion neu golegau y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Dylech drin y wybodaeth a gyflwynir fel canllaw defnyddiol, ond gallai eich profiad a/neu ofynion fod yn wahanol i fyfyrwyr blaenorol.

  • Gall digwyddiadau allanol gael effaith ar y data weithiau, er enghraifft y pandemig byd-eang diweddar neu ddirwasgiad economaidd. Gallai digwyddiadau o'r fath gael mwy o effaith ar y canlyniadau a/neu brofiad y myfyrwyr ar gyfer rhai cyrsiau neu bynciau na'i gilydd.

  • Mae rhywfaint o'r data gan fyfyrwyr a arolygwyd yn ystod y pandemig COVID-19, a allai fod wedi cael effaith ar eu hymatebion. Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau, cyrsiau a myfyrwyr wedi cael eu heffeithio gan y pandemig ac mae hyn yn debygol o fod wedi cael effaith ar y data rydym yn ei ddangos ar wefan Darganfod Prifysgol. Bydd rhai sefydliadau a phynciau wedi cael eu heffeithio yn llymach na'i gilydd gan y pandemig COVID-19. Er enghraifft, gallai fod profiad myfyrwyr mewn pynciau sy'n defnyddio labordai neu stiwdios, lleoliadau a gwaith maes wedi cael eu heffeithio’n fwy.
Back
to top